Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau casglu ar y stryd ac o dy i dy

Street and house to house collection licences
Yn ôl y gyfraith, rhaid cael trwydded i gasglu i  elusen.  Os ydych am gasglu arian neu werthu nwyddau ar unrhyw stryd neu fan cyhoeddus, bydd angen i chi gael trwydded casglu ar y stryd.  Mae'n rhaid gwneud hyn hyd yn oed os ydych yn casglu neu'n gwerthu ar gyfer elusen.  Nid yw codi arian trwy ddebyd uniongyrchol yn cael ei gynnwys dan y ddeddfwriaeth ac nid oes angen trwydded i wneud hyn.

 

 

 

Casgliadau ar y stryd

Sut i fynd ati i gasglu

Cyn gwneud cais, bydd angen i chi gael gair gyda ni i weld a yw'r dyddiad/dyddiadau ar gael i chi. 

Ar ôl i chi orffen eich casgliad, bydd angen i chi anfon manylion y casgliad.  Bydd rhaid gwneud hyn o fewn mis.  Byddwn yn anfon y ffurflen sydd angen ei llenwi gyda'ch trwydded.   Mae'n drosedd peidio ag anfon y ffurflen yn ôl.

Ffurflenni cais

Llenwch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod.  Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan arall y llywodraeth. 

Gwneud cais am drwydded casglu ar y stryd

Dychwelyd manylion am gasglu ar y stryd

 

 

Casgliadau o dy i dy

Sut i fynd ati i gasglu

Mae'n hanfodol bod hyrwyddwr y casgliad yn gwbl ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol.  Mae methu cydymffurfio'n drosedd.

Bydd angen i chi gael bathodynau ar gyfer y casglwyr ac i awdurdodi'r casglwyr.  Bydd rhaid dychwelyd y ffurflen atom sy'n dod gyda'r drwydded o fewn mis o'r casgliad.    

Ffurflenni cais

Llenwch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod.  Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan arall y llywodraeth. 

Gwneud cais i gasglu i elusen

Rhoi gwybod canlyniad y casgliad i elusen

Os na fyddwch wedi clywed unrhyw beth gan Gyngor Sir Powys o fewn 7 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais gallwch gymryd yn ganiataol  bod eich cais wedi bod yn llwyddiannus.

 

Gallwch hefyd gael ffurflenni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. 

Nid ydym yn codi tâl am y trwyddedau hyn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gasglu o dy i dy ar wefan y Comisiwn Elusennau.

 

Apeliadau

Os ydych yn anfodlon a'n penderfyniad, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod y mater.  

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, mae gennych hawl i apelio i'r Gweinidog yn y Swyddfa Gabinet.  Rhaid cyflwyno apeliadau o fewn 14 diwrnod o gael eich gwrthod.

 

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os oes gennych gwyn am elusen yn casglu o dy i dy, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma