Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cofrestru busnes bwyd

 
Pizza - food and drink licences
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob busnes bwyd gofrestru gydag Iechyd yr Amgylchedd o leiaf 4 wythnos cyn ei fod yn bwriadu agor. Bydd angen caniatâd Iechyd yr Amgylchedd ar rai busnesau bwyd i weithredu.

 

Cofrestru

Os ydych yn berchen ar fusnes bwyd neu wedi cymryd un drosodd ym Mhowys, mae'n rhaid i chi yn ôl y gyfraith, gofrestru eich busnes gyda'r cyngor o leiaf 28 diwrnod cyn ei agor neu gymryd perchnogaeth.   

Nid oes rhaid talu am gofrestru.  Bydd y manylion yn cael eu rhoi ar ein cofrestr a bydd rhai manylion, megis y math o fusnes, cyfeiriad a rhif ffôn ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.  Ni fydd y cyhoedd yn gallu gweld y manylion eraill y byddwch wedi'i roi.

Ar ôl i chi gofrestru, bydd angen i chi roi gwybod i ni os oes newid mewn perchnogaeth neu newid yn natur y busnes.

I gofrestru busnes bwyd, llenwch ffurflen ar-lein trwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol - Cofrestru Busnes Bwyd.

 

Cymeradwyaeth

Efallai bydd angen i'ch busnes bwyd gael ei gymeradwyo os ydych yn bwriadu gweithgynhyrchu eich nwyddau o gynhyrchion heb eu prosesu sy'n dod o anifeiliaid.  Er enghraifft, cig ffres, briwgig ffres, llaeth neu wyau amrwd.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Briwgig, bwydydd o gigoedd, cynnyrch cig a chig sy'n cael ei wahanu â pheiriant
  • Molysgiaid dwygragennog byw a chynnyrch pysgodfa
  • Llaeth amrwd (ac eithrio llaeth buwch amrwd)
  • Cynnyrch llaeth
  • Wyau a chynhyrchion wyau (ddim yn brif gynnyrch)
  • Cynnyrch eraill o anifeiliaid (mynnwch air gyda ni)
  • Rhai storfeydd oer a marchnadoedd cyfanwerthol 

Rhestr lawn o'r mathau o sectorau bwyd

Ni allwch agor eich sefydliad bwyd tan ei fod wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod hwn.  O dan y broses gymeradwyo bydd  rhaid i chi wneud yn siwr bod trefniadau yn eu lle i reoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion HACCP. 

Bydd dogfennau HACCP yn rhan o'ch system rheoli diogelwch bwyd a dylid eu teilwra i fod yn addas i'ch busnes chi.  Dylent fod yn syml ac yn briodol ar gyfer maint eich busnes a'r math o gynhyrchu yr ydych yn bwriadu ei wneud.

 

Eithriadau

Mae'n bosibl bod  rhai eithriadau - yn dibynnu os yw'r safle'n fasnachol neu'n cyflenwi ar sail ymylol, lleol a chyfyngedig

 

 

 

 

Cais i'w gymeradwyo

Yn ogystal â chofrestru, bydd angen cymeradwyo rhai busnesau i weithredu.  Os ydych yn bwriadu gweithgynhyrchu eich nwyddau o gynhyrchion heb eu prosesu sy'n dod o anifeiliaid (e.e. cig ffres, briwgig ffres, llaeth neu wyau amrwd), a fyddech gystal â tharo golwg dros yr adran 'Cymeradwyo' ar y dudalen hon.

Mae'n rhaid i chi ofyn am gyngor cyn cyflwyno cais.  Byddwn yn rhoi help llaw i chi wneud y trefniadau angenrheidiol cyn i chi gyflwyno ffurflen gais.

Cofrestru sefydliad busnes bwyd

Newid cofrestriad safle bwyd

Nid ydym yn codi tâlam y gwasanaeth hwn.

Gallwch hefyd gael ffurflen gais trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  A fyddech gystal â llenwi'r ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa ardal leol.

Os ydych yn cofrestru eich eiddo'n unig (NID yn gwneud cais i fod yn safle cymeradwy) gallwch gymryd bod eich cais wedi cael ei dderbyn os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym ni o fewn 28 diwrnod

 

Apeliadau a chwynion

Ceisiadau ar gyfer safleoedd cymeradwy

Os ydych yn anfodlon gyda'n penderfyniad, mae croeso i chi gysylltu â ni i'w drafod.

Eraill sydd â diddordeb

Os nad chi yw'r ymgeisydd ac rydych yn anfodlon â'r penderfyniad i roi cymeradwyaeth, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, o fewn 1 mis

Llys Ynadon Y Trallwng
Mansion House
24 Stryd Hafren
Y Trallwng
SY21 7UX

Cwynion gan ddefnyddwyr

Os ydych yn unigolyn preifat gyda chwyn am fusnes bwyd cofrestredig neu gymeradwy, cysylltwch â'r busnes yn gyntaf.  Os na fydd hynny'n gweithio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

Cysylltiadau

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: Lechyd yr Amgylchedd, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, Powys, SY21 7PH

Eich sylwadau am ein tudalennau