Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth y byddwn ei hangen

I sicrhau fod y wybodaeth gywir yn cael ei chyflwyno i unrhyw sefydliad y byddwn yn cysylltu â hwy ar eich rhan, dewch â'r wybodaeth ganlynol am yr unigolyn sydd wedi marw gyda chi:

  • Eu Rhif Yswiriant Cenedlaethol a dyddiad geni g?r, gwraig neu bartner sifil sy'n para'n fyw a'u Bathodyn Glas
  • Manylion unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau yr oeddynt yn eu derbyn
  • Eu tystysgrif marwolaeth
  • Eu Trwydded Yrru neu rif eu Trwydded Yrru
  • Eu Pasbort neu rif Pasbort a thref/sir eu genedigaeth

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am fanylion cyswllt oddi wrthych ar gyfer:

  • Eu perthynas agosaf
  • Gwr, gwraig neu bartner sifil sydd dal yn fyw
  • Yr unigolyn sy'n delio gyda'u hystâd

Rhaid i chi gael caniatâd yr unigolion a restrir uchod os ydych am ddarparu'r wybodaeth amdanynt i ni.