Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut fyddwn yn trin y wybodaeth

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn gyfrinachol.

Bydd y sefydliadau a gysylltir â hwy yn defnyddio'r wybodaeth i ddiweddaru cofnodion; i roi diwedd ar wasanaethau, budd-daliadau a chredydau fel sy'n briodol; ac i ddatrys unrhyw faterion sy'n weddill. Efallai y byddant yn defnyddio'r wybodaeth hon mewn ffyrdd eraill, ond dim ond fel y bydd y gyfraith yn caniatau.

Perthynas Agosaf

Os mai chi yw'r perthynas agosaf (perthynas agosaf trwy waed neu briodas i'r sawl sydd wedi marw), gall eich hawl i dderbyn budd-daliadau newid, felly gwnewch yn siwr fod gennych eich Rhif Yswiriant Gwladol a/neu eich dyddiad geni eich hunan gyda chi pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Os nad chi yw'r perthynas agosaf, neu'r unigolyn sy'n delio gydag ystad yr ymadawedig (sef yr unigolyn sy'n trin eu heiddo a'u harian), gallwch barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth os oes gennych eu caniatâd i ddarparu eu manylion a gweithredu ar eu rhan.