Os bydd rhywun yn marw yn yr ysbyty
Os bydd rhywun yn marw yn yr ysbyty, bydd staff yr ysbyty yn cysylltu â'r unigolyn a enwyd gan yr un sydd wedi marw fel ei berthynas agosaf. Gall hwn fod yn berthynas neu'n ffrind.
Os ydych yn dymuno, gallwch ofyn i weld caplan yr ysbyty.
Bydd yr ysbyty'n cadw'r corff ym marwdy'r ysbyty, hyd nes y bydd yr ysgutor yn trefnu i'w symud.
Mae Capel Gorffwys gan y rhan fwyaf o drefnwyr angladdau, a dyma lle bydd corff yr un sydd wedi marw yn cael ei gadw tan yr angladd.
Bydd staff yr ysbyty yn trefnu i'r perthynas agosaf gasglu eiddo'r unigolyn sydd wedi marw.