Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Os bydd rhywun yn marw mewn man arall

  • Marwolaeth Ddisgwyledig

Os oedd y farwolaeth i'w disgwyl, cysylltwch â'r meddyg a oedd yn gofalu am yr un sydd wedi marw yn ystod ei salwch. Os yw'r meddyg yn gallu tystio i achos y farwolaeth, bydd yn rhoi'r canlynol i chi:

  • Tystysgrif Feddygol sy'n dangos achos y farwolaeth (mae'r dystysgrif yn rhad ac am ddim, a bydd yn cael ei rhoi i chi mewn amlen wedi'i selio sydd wedi'i chyfeirio at y cofrestrydd).
  • Hysbysiad Ffurfiol yn nodi bod y meddyg wedi llofnodi'r Dystysgrif Feddygol, sy'n dweud wrthych sut i gofrestru'r farwolaeth.

Efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â gweinidog neu offeiriad yr un sydd wedi marw os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod. Gall trefnydd angladdau ymdrin â threfniadau'r angladd.

Os oedd y farwolaeth yn dilyn salwch HIV neu AIDS, efallai fod yna reolau arbennig ynglyn â thrin y corff.  Gall Ymddiriedolaeth Terrence Higgins eich cynghori ar drefnu'r angladd.

Marwolaeth Annisgwyl

Os ydych yn darganfod corff, neu os yw'r farwolaeth yn sydyn neu'n annisgwyl, dylech gysylltu â'r bobl ganlynol:

  • y meddyg teulu (os yn hysbys)
  • perthynas agosaf yr un sydd wedi marw
  • gweinidog neu offeiriad yr un sydd wedi marw (os yn hysbys)
  • yr Heddlu, a fydd yn helpu i ddod o hyd i'r bobl a restrir uchod, os bydd angen.

Os oes unrhyw le i gredu nad oedd y farwolaeth yn un naturiol, peidiwch â chyffwrdd na symud unrhyw beth yn yr ystafell. Gellir cyfeirio'r farwolaeth at y Crwner.