Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhoi gwybod i'r Crwner am farwolaeth

Mewn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol, gall y meddyg roi gwybod i'r crwner:

  • damwain neu anaf
  • clefyd diwydiannol
  • yn ystod llawdriniaeth lawfeddygol
  • cyn gwella ar ôl anesthetig
  • os yw achos y farwolaeth yn anhysbys
  • os oedd y farwolaeth yn sydyn ac anesboniadwy

Efallai mai'r Crwner fydd yr unig un a fydd yn gallu tystio i achos y farwolaeth. 

Bydd y meddyg yn nodi ar yr Hysbysiad Ffurfiol bod y farwolaeth wedi cael ei chyfeirio at y crwner.

Os nad oedd y meddyg a oedd yn gofalu am yr un sydd wedi marw wedi ei weld, naill ai ar ôl y farwolaeth neu o fewn 28 diwrnod cyn y farwolaeth, rhaid dweud wrth y crwner.