Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sgamiau a sgamiau trwy'r post

Mae sgamwyr yn gwneud eu gorau glas i'ch denu chi i roi arian iddynt. Dylai pawb fod yn wyliadwrus gan fod sgamwyr yn soffistigedig iawn wrth iddyn nhw dwyllo pobl a'u denu i gredu bod yr hyn a gynigant yn gyfreithlon.

Dyma rai mathau nodwediadol o sgamio:

  • Llythyrau oddi wrth seicig neu rywun sy'n honni ei fod yn gallu rhagweld y dyfodol yn addo cyflwyno rhagfynegiad a'i fod yn gallu newid eich tynged - am ffi. Weithiau maent yn bygwth y gall pethau drwg ddigwydd os nad ydynt yn ymateb.
  • Gwe-rwydo ('Phishing') i ddarganfod eich manylion, bydd sgamwyr o'r fath yn honni eu bod yn cynrychioli busnes cyfreithlon rydych eisoes yn ei ddefnyddo. Yna, byddant yn defnyddio'ch manylion chi i ddwyn arian o'ch cyfrif neu i brynu eitemau moethus ar eich cyfrif chi.
  • Ffug-glybiau gwyliau yn cynnig gwyliau moethus am ddim ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am hedfan, eich prydau bwyd ac ychwanegiadau eraill. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid ichi wrando ar gyflwyniad hir sy'n gwerthu 'bargen' cyfnod-rannu i chi.
  • Gwerthu pyramid/cynllunio rhoddion lle bydd gofyn i chi dalu ffi a cheisio recriwtio aelodau newydd. Bydd cynlluniau o'r fath yn cynnig enillion da pan fyddwch wedi recriwtio digon o aelodau. Mae'r cynlluniau hyn bob amser yn anghyfreithlon; mae pobl wedi colli miloedd yn aros am yr arian a addawyd.
  • Loteri, swîp neu gystadleuaeth sy'n addo eich bod wedi ennill rhywbeth, ond bod yn rhaid i chi anfon ffi "weinyddol" i ddechrau. Bydd y sgamwyr yma'n gwneud eu harian o'r ffioedd y bydd pobl yn eu hanfon. Gwyliwch rhag galwadau ffôn symudol fel hyn - bydd galw'r rhif a roddant yn costio ffortiwn i chi ar eich bil nesaf.
  • Gwasanaethau SMS (testun) dieisiau ar eich ffôn symudol. Gwiriwch yr holl delerau a'r amodau'n ofalus. Ni ddylech orfod talu am wasanaeth testun oni bai eich bod wedi cytuno i hyn. Anfonwch STOP i'rrhif a dylai'r gwasanaeth ddod i ben.
  • Sgamiau arian tramor mae sgamiau arian tramor a ffioedd ymlaen llaw yn cynnig swm mawr o arian i chi wneud rhywbeth sy'n ymddangos yn eithaf dibwys, fel anfon ffi fechan. Ma'en bosibl eu bod yn ceisio cael yr arian allan o'u gwlad, neu ddweud bod rhywun wedi gadael arian i chi mewn ewyllys tramoor, neu bod benthyciad enfawr wedi'i roi i chi am gyfraddau ffafriol. Os anfonwch yr arian, welwch chi fyth mohono eto.
  • Cyfleoedd i weithio o'r ty mae'r rhain yn hysbysebu gwaith ycyflogedig o'ch cartref, gan or-liwio'r honiadau am yr arian y gallwch ei ennill. Byddant yn gofyn am arian cyn dechrau i brynu cyflenwadau neu i ddatgelu'r 'gyfrinach'. Peidiwch byth ag ateb hysbyseb o'r fath sy'n gofyn am arian cyn dechrau.
  • Cyfarfod â chymar oes o wlad tramor ar lein.  Efallai y bydd sgwrs yn dechrau gyda'r 'partner delfrydol'. Yna byddant yn dechrau gofyn i chi am arian ar gyfer pethau fel addysg, eu teulu tlawd neu docyn awyren i ddod i'ch gweld.
  • Cyfle euraid i fuddsoddi bydd y rhain yn cynnig cyfle i chi roi eich arian mewn cynllun 'sicr' i elwau trwy fuddosddi mewn pethau fel cyfranddaliadau, gwin, gemwaith ac eitemau prin eraill. Bydd yr eitemau a werthant yn ddrud, yn rhai risg uchel, ac yn anodd eu gwerthu.
  • 'Meddyginiaeth' wyrthiol sy'n gallu addo gwelliant ar unwaith o gyflyrau fel gordewdra, crydcymalau, colli gwallt ac ati.

Beth allwch chi ei wneud?

Byddwch yn wyliadwrus os derbyniwch gynnig i ennill arian mawr yn gyflym, os bydd rhywun yn eich bygwth, yn gofyn i chi dalu ffi cyn cychwyn, neu'n gofyn am eich manylion personol. Cofiwch, os yw'r cynnig yn ymddangos yn 'anghredadwy' dyna yn hollol ydyw, yn aml iawn.

Ystyriwch gofrestru eich manylion, neu fanylion unrhyw un rydych yn gofalu amdano/amdani gyda'r Gwasanaethau Dewis Post a'r Gwasanaethau Dewis Galwadau Ffôn er mwyn lleihau'r post neu'r galwadau gwerthu dros y ffôn. Gallai tynnu eich rhif ffôn yn ôl o'r cyfeiriadur (ex-directory) hefyd helpu'r sefyllfa.

Rhowch wybod i'ch Darparwr Gwasanaewth Rhyngrwyd am sgamiau  trwy'r e-bost ac ymdrechion i'ch gwe-rwydo, ac ystyriwch osod meddalwedd gwrth-sbam ar eich cyfrifadur.

Rhoi gwybod am sgam

Os oes sgamwyr wedi bod yn eich blino chi neu rywun y gwyddoch amdano, bydd angen i chi roi gwybod i Wasanaethau Cwsmer Cyngor ar Bopeth am hyn. Bydd y Gwasnaeth yn atgyfeirio unrhyw achosion atom ni os oes angen ymchwilio ymhellach iddynt. Gallwch hefyd roi gwybod am sgamiau neu sgamiau posibl trwy gysylltu ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk 

 

Cysylltiadau

  • Ebost: trading.standards@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0808 223 1144 
  • Cyfeiriad Gogledd Powys: Safonau Masnach - Cyngor Cwsmer, Kirkhamsfield, Y Drenewydd, Powys SY16 3AF.
  • Ebost: trading.standards@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0808 223 1144 
  • Cyfeiriad De Powys: Safonau Masnach - Cyngor Cwsmer, Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR
  • Ebost: trading.standards@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0808 223 1144.
  • Cyfeiriad Canol Powys: Safonau Masnach - Cyngor Cwsmer, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Eich sylwadau am ein tudalennau