Mae'n drosedd gadael i gi sydd yn eich rheolaeth i faeddu ar "dir dynodedig", os na fyddwch yn glanhau'n syth wedi iddo faeddu.
Deddf Cwn (Baeddu ar Dir) 1996
Mae'n drosedd gadael i gi sydd yn eich rheolaeth i faeddu ar "dir dynodedig", os na fyddwch yn glanhau'n syth wedi iddo faeddu. Mae "tir dynodedig" yn cynnwys y canlynol:
Palmentydd
Ymylon ffyrdd a thir wrth briffyrdd gydag uchafswm cyfyngiad cyflymder o 40 milltir yr awr neu'n is
Pob darn o dir sy'n eiddo i'r cyhoedd ac o fewn cyrraedd i'r cyhoedd o fewn trefi a phentrefi
Ewch â bag plastig gyda chi bob tro i godi'r baw cyn gynted ag y bydd eich ci wedi baeddu a'i osod yn y bin sbwriel neu fin baw cwn agosaf. Os nad oes bin gerllaw, ewch â'r gwastraff adref a chael gwared ohono'n ddiogel yno.
Ydw i'n gyfrifol os ydw i'n cerdded ci rhywun arall?
Ydych, yr unigolyn sy'n gyfrifol am y ci ar adeg y drosedd yw'r un fyddai'n cael dirwy neu'n cael ei gyhuddo.
Gofyn am arwyddion 'Dim Cwn yn Baeddu' neu finiau baw cwn
Cysylltwch â ni ac ar yr amod fod yr ardal yn "dir dynodedig", byddwn yn codi arwyddion lle bo hynny'n briodol a/neu ystyried a oes angen biniau. Bydd unrhyw fin newydd a gaiff ei osod yn fin cyfansawdd ar gyfer sbwriel a gwastraff ci.