Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gair i Gall ar Ddiogelwch Bwyd

  • Ewch â bwyd oer neu fwyd wedi'i rewi adref yn fuan a'i roi yn yr oergell neu'r rhewgell ar unwaith.
    Paratowch a storiwch fwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio ar wahân - cadwch gig a physgod amrwd ar waelod yr oergell a defnyddiwch gyllyll a byrddau torri ar wahân i fwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio.
    Cadwch ran oeraf eich oergell ar 0-5°C - defnyddiwch thermomedr oergell.
    Gwiriwch y dyddiadau 'defnyddio erbyn' - a defnyddiwch y bwyd o fewn y cyfnod sy'n cael ei argymell.
    Cadwch anifeiliaid anwes yn ddigon pell o'r bwyd - ac yn ddigon pell o lestri, teclynnau bwyd a byrddau gwaith.
    Golchwch eich dwylo'n drwyadl cyn paratoi bwyd, ar ôl defnyddio'r toiled neu ar ôl trafod eich anifeiliaid anwes.
    Cadwch eich cegin yn lân - golchwch y byrddau gwaith a'r teclynnau bwyd rhwng defnyddio bwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio.
    Peidiwch â bwyta bwyd sy'n cynnwys wyau heb eu coginio - cadwch wyau yn yr oergell.
    Coginiwch y bwyd yn dda, gan ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y pecyn. Os aildwymwch y bwyd, gwnewch yn siwr ei fod yn chwilboeth, a pheidiwch â'i aildwymo fwy nag unwaith.
    Cadwch fwydydd poeth yn boeth a bwydydd oer yn oer - peidiwch â'u gadael i sefyllian.

     

    Os oes angen rhagor o gyngor arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni. Os oes angen, bydd un o'r swyddogion yn trefnu i ddod atoch i roi cyngor.

 

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau