Heintiau coluddol
Mae'r nodiadau hyn yn ganllaw i bobl sy'n dioddef o achos o wenwyn bwyd neu'n tybio eu bod yn dioddef o wenwyn bwyd.
Rhowch wybod i'ch Meddyg!
Os ewch at eich Meddyg Teulu neu'ch ysbyty lleol a'r meddygon yn amau bod achos o wenwyn bwyd neu gastro-enteritis, yna mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar eich Meddyg Teulu i roi gwybod i ni amdano. Bydd swyddog archwilio'n cysylltu â chi i roi cyngor a gwybodaeth, a hefyd i drefnu i gael sampl ysgarthion os oes angen. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn ymweld â'ch meddyg i gael cyngor am y driniaeth.
Ble ges i'r salwch?
Dyma ffynonellau gwenwyn bwyd / salwch sy'n cael ei gario mewn bwyd:
- Bwydydd wedi'u halogi, er enghraifft cigoedd a dofednod heb eu coginio'n ddigonol, llaeth amrwd neu ddwr yfed wedi'i lygru.
- Anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm.
- Dal yr haint gan rywun arall, yn aml yn sgil safonau hylendid gwael.
Symptomau
Bydd eich symptomau'n amrywio, gan ddibynnu ar y math o haint a gawsoch, ond mae'r dolur rhydd, cyfogi, poen yn y bol, gwres, cur pen neu benysgafnder ymhlith y symptomau mwyaf cyffredin. Mae'n bosibl y cewch un neu fwy o'r symptomau hyn yn dibynnu ar ba haint sydd gennych.
Sut alla' i arbed fy nheulu rhag mynd yn sâl?
Bydd hylendid personol da yn helpu i sicrhau nad ydych yn trosglwyddo'r haint i'ch teulu neu'ch ffrindiau agos. Gwnewch yn siwr bod pawb yn golchi'u dwylo'n drylwyr gan ddefnyddio sebon a dwr poeth. ar ôl bod yn y ty bach, newid clytiau babanod, trin anifeiliaid anwes a chyn paratoi unrhyw fwydydd. Goruchwyliwch plant bach pryd bynnag y bydd yn bosibl gwneud hyn.
Mae glanhau a diheintio'n hanfodol. Dylai dillad a dillad gwely sydd wedi'u baeddu gael eu golchi mewn cylched 'boeth' yn y peiriant golchi. Os oes llawer o ôl baeddu arnynt, dylech symud cymaint o ysgarthion â phosibl oddi ar y dilledyn, ei wagu i'r toiled a thynnu dwr drosto. Yna dylai golch sydd wedi'i faeddu'n drwm gael ei socian mewn toddiant diheintydd cartref cyn ei olchi er mwyn lleihau'r halogiad. Cofiwch olchi eich dwylo'n drwyadl ar ôl trin dillad a dillad gwely sydd wedi'u baeddu.
Rhaid diheintio dolen drws y toiled a'r tapiau, a hefyd sedd, ymyl, bowlen, a dolen tynnu dwr y toiled ar ôl ei ddefnyddio gyda glanweithydd fel Milton, Domestos neu chwistrell gwrth-facterol. Tywalltwch ddiheintydd heb ei gymysgu â dwr o amgylch powlen y toiled min nos, a thynnu dwr drosto yn y bore.
Dylai teganau neu eitemau eraill sy'n cael eu rhannu rhwng aelodau o'r teulu fel arfer gael eu cadw ar wahân yn ystod cyfnod yr haint, fel nad yw'r plant iach yn chwarae gyda'r un teganau â'r claf. Dylai'r teganau y mae'r claf yn eu defnyddio gael eu diheintio os yn bosibl trwy eu glanhau â chadach sy'n cynnwys diheintydd ysgafn a'u rinsio gyda dwr glân cyn i unrhyw blentyn arall eu cyffwrdd.
Cymerwch ofal wrth ddod i gysylltiad â phobl eraill. Ni fydd angen cadw pobl ar wahân neu eu gosod mewn cwarantîn ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o wenwyn bwyd. Dim ond mewn achosion o glefydau heintus dros ben y bydd angen gwneud hyn. Ond doeth fyddai peidio â gadael i'r claf fod yn agos at blant bach iawn neu'r henoed gan fod yr oedrannau yma'n dal heintiau'n rhwyddach na phobl eraill. Dylid cyfyngu ar chwarae gyda phlant, ac yn sicr dylech osgoi chwarae gyda phlant y tu allan i'r teulu agos nes bod y claf wedi gwella o'i symptomau ers ychydig ddyddiau.
Pryd alla' i ddychwelyd i'r gwaith / y feithrinfa / yr ysgol?
Dylai plant sydd wedi'u heintio beidio â mynd i gylchoedd chwarae, meithrinfeydd, tai gwarchodwyr plant neu'r ysgol, ac ni ddylai rhai pobl eraill sydd wedi'u heintio fynd i'r gwaith nes eu bod wedi gwella'n llwyr am o leiaf 48 awr, e.e. pobl sy'n trin bwyd, gweithwyr meithrinfeydd, nyrsys neu ofalwyr am yr henoed. Weithiau, mae angen samplau ysgarthion sy'n glir o'r haint (h.y. gyda chanlyniad negyddol) cyn y gallan nhw fynd yn ôl i'r gwaith. Bydd swyddog yr Adran yn rhoi gwybod i chi pryd y byddwch yn gallu mynd yn ôl i'r gweithgareddau hyn.
Ble alla' i gael rhagor o gyngor?
Bydd eich Meddyg Teulu'n gallu rhoi cyngor i chi am driniaeth. Os oes angen cyngor neu gyfarwyddyd pellach arnoch, yna cysylltwch â ni.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau