Toglo gwelededd dewislen symudol

Gastro-enteritis feirysol

Haint feirysol sy'n cael ei ddal yn achlysurol, yn aml mewn tymor penodol yw gastro-enteritis. Weithiau bydd yn cael ei alw'n ffliw gastrig, rotavirus neu feirws Norwalk. Mae'n gallu effeithio ar unigolion, ac yn aml iawn, ar grwpiau mawr o bobl.
Image of soapy hands

Sut ges i'r salwch?

Yn aml iawn, bydd Gastro-enteritis feirysol yn cael ei ddal drwy:

  • gysylltiad agos â rhywun arall sydd wedi'i heintio
  • bwyta bwyd sydd wedi'i halogi â'r organeb
  • halogiad yn yr amgylchedd, yn enwedig mewn toiledau

Pryd ges i'r salwch?

Mae'r salwch yn digwydd o fewn 24-28 i'r heintio fel arfer, ond mae'n gallu amrywio o 10 i 50 awr, gan ddibynnu ar y faint o gysylltiad a fu, a pha mor gryf yw rhywogaeth y feirws dan sylw.

Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?

  • cyfogi
  • dolur rhydd
  • poen yn y bol
  • gwres

Sut ydw i'n atal y salwch rhag lledaenu?

  • Golchi'r dwylo'n drwyadl ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi bwyd neu fwyta
  • Dylech olchi dwylo plant bach sydd wedi dal yr haint, neu eu goruchwylio tra byddant yn gwneud hynny eu hunain
  • Diheintio pob rhan o'r toiled bob dydd (gan gynnwys dolenni'r drysau) a hefyd unrhyw fannau eraill a allai fod wedi'u halogi â chyfog
  • Dylai pobl sydd wedi'u heintio aros i ffwrdd o'r gwaith tan iddynt fod yn rhydd o symptomau dolur rhydd a chwydu am o leiaf 48 awr
  • Os yw'r person sydd wedi'i heintio mewn gr?p risg uchel e.e. yn trin bwyd, yn gweithio mewn meithrinfa, yn nyrs neu'n gofalu am yr henoed ac ati, ni allant ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt wella'n llwyr am 48 awr.   Ar adegau bydd angen sicrhau canlyniadau negyddol i samplau o garthion.  Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwahardd rhai plant heintiedig o grwpiau chwarae, meithrinfeydd, gofalwyr plant neu ysgolion.   Bydd swyddog o'r adran yn rhoi gwybod i chi os bydd angen gwahardd a phryd y gallwch ailddechrau gweithgareddau.

Ble alla' i gael rhagor o gyngor?

  • Bydd eich Meddyg Teulu yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut i drin y salwch.
  • Dylech ddweud wrth eich gweithle, neu yn achos plant bach, pennaeth yr ysgol, i ddarganfod a oes angen cadw'r plentyn o'r ysgol,  a phryd y bydd yn gallu dychwelyd.

Os ydych yn rhoi gwybod am eich haint, bydd swyddog archwilio'r cyngor yn rhoi taflen gyffredinol i chi ar sut i reoli haint.

 

Cyswllt

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau