Toglo gwelededd dewislen symudol

Angladd Iechyd y Cyhoedd

Dan y Gyfraith, os nad oes rhywun ar gael i wneud trefniadau ar gyfer angladd pan fydd rhywun farw, mae'n rhaid i'r cyngor drefnu angladd ar ei gyfer.
Image of a lily

Costau'r angladd yw'r costau cyntaf sy'n cael eu hawlio ar unrhyw eiddo, a gallwn gasglu unrhyw arian sy'n perthyn i'r sawl a fu farw i helpu i dalu am yr angladd.

Os na adawodd y sawl a fu farw ewyllys ar ei (h)ôl, a dim perthynas agosaf ar gael, byddwn yn cyfeirio'r eiddo, ar ôl talu ein costau ni tuag at yr angladd, at Gyfreithiwr y Trysorlys, sy'n ymdrin ag eiddo pobl sy'n marw heb ewyllys na pherthynas agosaf.

Ceir manylion isod am angladdau iechyd y cyhoedd y mae Cyngor Sir Powys wedi ymgymryd â nhw.