Toglo gwelededd dewislen symudol

Trosedd carreg y drws a masnachwyr diegwyddor

Ymhlith y castiau mwyaf cyffredin y bydd masnachwyr diegwyddor yn eu defnyddio wrth gyflawni troseddau ar garreg y drws mae: -

  • Curo ar eich drws a dweud eu bod wedi sylwi ar broblem gyda'ch cartref chi a'u bod yn gallu trwsio'r broblem honno
  • Dweud bod ganddynt ddeunyddiau dros ben o waith arall, a bod modd iddyn nhw ddefnyddio'r rheiny yn eich cartref chi, er enghraifft Tarmac ar y dreif
  • Gwerthu didrugaredd - aros yn eich ty neu ar garreg eich drws nes byddwch wedi cytuno i adael iddynt wneud y gwaith. Nid yw pob un sy'n galw'n ddirybudd yn fasnachwr diegwyddor, ond gallai cytuno i adael i rywun sy'n galw heibio'n ddirybudd i wneud gwaith ar eich ty olygu eich bod yn dioddefwr trosedd carreg y drws

Gall masnachwyr diegwyddor: -

  • godi prisiau afresymol
  • Derbyn blaendal, ac yna peidio â dychwelyd i wneud y gwaith
  • Gwneud gwaith gwael
  • Peidio â rhoi gwybodaeth i chi ynglyn â'r hawl sydd gennych i ganslo'r gwaith os newidiwch eich meddwl
  • Hebrwng defnyddwyr i fanciau neu gymdeithasau adeiladu i godi arian i dalu am waith
  • Gwrthod datrys problemau
  • Peidio â chynnig unrhyw warant o gwbl

 

Beth i'w wneud os daw masnachwyr i garreg eich drws

Ni d yw pob masnachwr yn anonest, ond mae nifer o bethau y dylech eu gwirio er mwyn gwneud yn siwr na fyddwch yn dioddef oherwydd masnachwyr diegwyddor: -

  • Gofynnwch am eu cerdyn llun i ddweud pwy ydynt, a defnyddiwch y twll ffenestr fach neu'r gadwyn ar y drws os oes gennych un
  • Peidiwch byth â llofnodi cytundeb nes eich bod wedi holi cwmnïau eraill am brisiau yn gyntaf
  • Gofynnwch am ragor o amser i ystyried y cynnig, ac i gael ail ddyfynbris. Bydd gwerthwr go iawn yn deal hyn ac ni ddylai bwyso arnoch i lofnodi'r diwrnod hwnnw
  • Gofynnwch am gyngor gan eich teulu, eich cyfeillion neu'ch cymdogion cyn cytuno i drefnu unrhyw waith
  • Os oes gennych unrhyw amheuon neu bryderon, gofynnwch i'r masnachwr adael, caewch y drws, a ffoniwch yr heddlu neu cysylltwch â'r gwasanaeth safonau masnach
  • Peidiwch â chaniatáu i urnhyw un sy'n galw nac unrhyw weithiwr i fynd â chi i'r banc, y gymdeithas adeiladu neu'r Swyddfa Bost

Os digwydd i chi lofnodi cytundeb yn dilyn galwad di-rybudd gan gwmni (gan gynnwys galwad ffôn gan y busnes, yn gofyn am apwyntiad i ddod i ymweld â chi), ac os yw'r nwyddau neu'r gwasanaethau a brynwch yn costio mwy na £35, yna fel arfer, mae gennych saith diwrnod i newid eich meddwl a dileu'r cytundeb. Rhowch wybod am drosedd ar garreg y drws neu fasnachwr diegwyddor.

O s oes rhywun wedi galw yn eich cartref yn ddiwahoddiad ac wedi gwneud gwaith rydym chi'n anfodlon ag ef neu'n pryderu amdano, neu os ydych am roi gwybod i ni am ddigwyddiad ar ran cyfaill, cymydog neu berthynas, rhowch wybod i ni.

 

 

Dod o hyd i fasnachwr a chanddo enw da

Angen gwaith ar eich cartref neu yn eich gardd? Yn chwilio am fasnachwr y gallwch ymddiried ynddo?

I  ddod o hyd i fasnachwr a chanddo enw da, ewch i wefan Trustmark.

 

 

Parthau dim galwadau dirybudd

N od 'parthau dim galwadau dirybudd' yw ceisio lleihau nifer yr achosion o drosedd ar garreg y drws trwy nodi parthau lle na roddir croeso i bobl sy'n dod at y drws.

Mae tri maen prawf i'w cyflawni cyn gallu sefydlu parth:

  • Hanes trosedd ar garreg y drws neu fwrgleriaeth drwy dynnu sylw
  • Trigolion hawdd eu niweidio
  • Ardal ddaearyddol ddiffinedig 

Cyswllt

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau