Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cwyn am gwmni bysiau

 

Os oes angen gwneud cwyn am unrhyw broblem gyda chysondeb y gwasanaethau, neu gwrteisi'r gyrrwr, dylech roi eich cwyn mewn llythyr at y cwmni bysiau, ac anfon copi hefyd at y Cyngor Sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn gofalu am eich gallu i symud o gwmpas, ac mae'n croesawu awgrymiadau neu feirniadaeth a allai ein helpu i wella cynllun a gweithrediad gwasanaethau bwysiau a threnau. Anfonwch eich awgrymiadau atom gan ddefnyddio'r manylion cysylltu ar y dudalen yma.

Rhowch wybod am gwynion yn uniongyrchol i'r cwmnïau sy'n rhedeg gwasanaethau ar y llwybrau dan sylw. I weld rhestr o'r cwmnïau sy'n rhedeg y bysiau yma, ewch i wefan Traveline Cymru.

Gallwch hefyd gysylltu â Bus Users UK / e-bost: wales@bususers.org

Os oes angen i chi ysgrifennu atom, ein cyfeiriad yw: Powys County Hall, Spa Road East, Llandrindod Wells, Powys. LD1 5LG