Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrsiau Dwr Cyffredin: Cais am ganiatâd i wneud gwaith

Os ydych am wneud mathau penodol o waith ar gwrs dwr neu'n agos at gwrs dwr, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd cyn i chi ddechrau.  Efallai ni fydd rhai mathau o waith ger cwrs dwr yn cael ei ganiatau oherwydd gallai gynyddu'r perygl o lifogydd.  Cyn i ni roi caniatâd i gynllun, bydd angen i ni wneud yn siwr nad yw'n cynyddu'r perygl o lifogydd ac yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd.

  • Os yw'n Brif Afon bydd angen i chi wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Efallai bydd angen caniatâd gan Gyngor Sir Powys neu Fwrdd Draenio Mewnol Powysland ar gyfer gwaith sy'n effeithio ar Gwrs Dwr Cyffredin.

 

Ffurflen Gais

  1. Lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais isod
  2. Dychwelyd y ffurflen i'r cyfeiriad sydd ar y ffurflen
  3. Bydd rhaid talu'r ffi ar gyfer y cais sydd wedi'i nodi ar y ffurflen.

    Gallwch gael map statudol o wefan Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n dangos y prif afonydd - Gwasanaeth 'Beth sy'n eich iard gefn'.

    Gallwch ddod i wybod ym mha ddosbarth mae eich cwrs dwr trwy gysylltu â ni neu ymweld â gwefannau Cyfoeth Naturiol Cymru

     

    Sut allaf wneud cais?

    I wneud cais, llenwch y ffurflen ar y dudalen hon a'i dychwelyd i ni.

    Cofiwch anfon y wybodaeth rydym yn gofyn amdano er mwyn i ni wneud penderfyniad ar ba mor addas yw eich cynigion.  Mae'n rhaid i chi ddangos na fydd eich cynigion yn cael effaith andwyol ar y risg o lifogydd neu'r amgylchedd.

    Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn dau fis o dderbyn cais dilys.  Darllenwch y nodiadau canllaw i wneud yn siwr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnom.  Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech drafod eich cynllun, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

     

    Pa fath o waith sydd angen caniatâd?

    Efallai bydd angen caniatad ar gyfer gwaith parhaol a dros dro sy'n effeithio ar gwrs dwr.  Gallai'r gwaith dros dro olygu cronni neu gronni'n rhannol cwrs dwr er mwyn gwneud gwaith parhaol megis gosod pont. 

    Os nad ydych yn sicr bod angen caniatâd ar eich cynigion neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.  Yn aml gall y gwaith gael ei wneud mewn mwy nac un ffordd ac efallai gallwn gynnig ffordd o wneud cynllun heb orfod cael caniatâd.

     

    A oes gan y caniatâd terfyn amser?

    Pan fydd caniatâd yn cael ei roi, bydd yn ddilys am dair blynedd.  Mae hyn oherwydd gall effeithiau'r cynllun newid oherwydd y pethau eraill a allai ddigwydd ar ol i chi wneud y cais.

    Yn dibynnu ar eich cynigion, efallai y cewch ganiatad a fydd yn cynnwys amodau ar gyfer gwneud y gwaith, er enghraifft amser penodol o'r flwyddyn, er mwyn lleihau'r risg o lifogydd a'r potensial o ddifrod ecolegol.

     

    Camau gorfodi yn erbyn gwaith sydd heb ei ganiatau

    Mewn achos lle mae gwaith wedi'i wneud heb ganiatad, ac mewn achos lle rydym o'r farn y byddai angen caniatad, ni ellir rhoi ôl-ganiatad.  Yn yr achosion hyn, byddwn fel arfer yn cymryd camau i gael y cwrs dwr cyffredin wedi'i adfer i'r cyflwr blaenorol neu yn cymryd camau adfer.

    Os ydych wedi sylwi ar waith yn cael ei wneud i gwrs dwr cyffredin yn eich ardal leol, mae croeso i chi gysylltu â ni i holi os oes gan y gwaith y caniatad sydd ei angen.