Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Gwybodaeth am ffyrdd trin

Pam fod ffyrdd sydd wedi'u graeanu'n dal i fod yn rhewllyd?

Dim ots beth wnawn ni, allwn ni ddim bob amser fod yn si?r bod ffyrdd sydd wedi'u graeanu'n  hollol glir o rew ac eira.

Mae hyn oherwydd:

  • Mewn eira trwm, mae graean dim ond yn gweithio ar ffyrdd â thraffig trwm.
  • Mae'n cymryd amser i'r graean weithio ar ôl graeanu'r ffyrdd.
  • Mae glaw a d?r yn gallu golchi'r graean o'r ffyrdd sy'n golygu y gallan nhw ail-rewi.
  • Mewn tywydd oer iawn (o dan -5°C) ni fydd graean yn rhwystro'r ffyrdd rhag rhewi.
  • Os yw'n rhewi ar ôl glawio, ni fyddwn yn dechrau graeanu tan iddi orffen bwrw glaw rhag i'r graean olchi i ffwrdd.  Gall y tymheredd syrthio cymaint â 5°C yr awr a gall ffyrdd gwlyb rewi cyn i'r lori graeanu gyrraedd.
  • Mae rhew'r wawr yn digwydd ar ffyrdd sych pan fydd gwlith y bore bach yn troi'n dd?r ar wyneb oer y ffordd ac yn rhewi.  Mae'n amhosibl rhagweld yn fanwl gywir ymhle a phryd y gall hyn ddigwydd.
  • Pan fydd glaw'n troi i eira yn ystod yr adeg brysur, bydd unrhyw raean cynnar yn cael ei olchi i ffwrdd ac nid yw'r lorïau graeanu'n gallu bwrw ati oherwydd tagfeydd traffig.
  • Mae'n bosibl bod d?r ar y ffordd am resymau eraill.  Gall hyn gynnwys d?r yn gollwng o'r brif bibell dd?r, golchi cerbydau neu arllwys d?r dros y sgrin wynt i doddi'r ia.   Gall y d?r droi'n ia os yw tymheredd wyneb y ffordd yn is na sero gradd.  Mae'r cyngor yn trin achosion mawr o dd?r yn gollwng cyn gynted â phosibl.
  • Dros dymor, mae rhagolygon y tywydd tua 90% yn gywir.  Yn ystod gaeaf cyffredin mae hyn yn golygu y bydd sawl diwrnod pan nad oes sôn am rew, ond mae'n dal i ddigwydd.

Mae'n bosibl y gwelwch chi ychydig o rew ar ffyrdd sydd wedi cael eu graeanu, a dylai gyrwyr gofio fod angen gyrru'n ofalus bob amser, yn arbennig pan fydd rhew neu dymheredd rhewi ar ôl glaw.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu