Cofiwch addasu eich technegau gyrru yn ôl y tywydd:
Peidiwch â rhoi gormod o sbardun i'r injan rhag ofn i'ch olwynion ddechrau troelli.
Defnyddiwch gêr mor uchel â phosibl er mwyn gwella gallu'r cerbyd i gydio.
Wrth ddringo rhiwiau, cynyddwch eich cyflymder yn raddol.
Wrth yrru i lawr rhiw, arhoswch mewn gêr isel er mwyn osgoi defnyddio gormod ar y brêc.
Breciwch yn ysgafn bob tro, mewn digon o bryd.
Peidiwch ag achosi rhwystr ar gyffordd neu gylchfan.
Arhoswch yn bellach nag arfer o'r cerbyd sydd o'ch blaen
Rhowch fwy o le i feicwyr.
Gwyliwch rhag ofn bod cerddwyr o gwmpas, yn enwedig ar groesfan neu ger ysgol.
Gwnewch yn siwr bob amser bod yr holl eira neu rew wedi'i glirio o'ch cerbyd, a pheidiwch â gyrru gyda dim ond twll bach wedi'i glirio yn eich ffenestr flaen. Mae hyn yn beryglus - ac mae hefyd yn anghyfreithlon!
Os oes gwir angen i chi deithio yn y car, gwnewch yn siwr eich bod yn:
Gwrando ar sianel radio leol neu'r BBC i gael y newyddion diweddaraf am y tywydd - mae'r ddau gyfrwng yn darlledu adroddiadau am ffyrdd lleol a gwybodaeth am y tywydd
Rhoi gwybod i berthynas neu ffrind eich bod ar y ffordd cyn i chi adael - yn ddelfrydol, rhywun yn y lle rydych yn mynd iddo
Caniatáu digon o amser i chi gyrraedd: gadewch yn gynt, a pheidiwch â brysio - gwell hwyr na hwyrach
Gwirio bod eich batri'n gweithio'n iawn
Gwirio bod eich teiars yn addas
Cludo rhaw yng nghist y car
Gwefru'ch ffôn symudol yn llawn rhag ofn bod argyfwng yn codi
Rhoi digon o danwydd ac olew yn y car. Os ydych yn mynd ar daith hir, ewch â thanwydd gyda chi rhag ofn y bydd ei angen mewn argyfwng. Bydd gorsafoedd petrol weithiau'n cau mewn tywydd gwael!