Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Holi am anfoneb

Holi am anfoneb

O'r 2 Mawrth 2015, mae Cyngor Sir Powys yn rhoi polisi Dim Gorchymyn Prynu, Dim Taliad ar waith. O'r dyddiad hwn, RHAID i bob cyflenwr ddyfynu rhif Gorchymyn Prynu (GP) ar eu hanfoneb er mwyn ei brosesu ar gyfer taliad.

Mae'r gofyniad hwn wedi'i nodi eisoes yn ein Hamodau Contract Cyffredinol ac yn cael ei gyflwyno er mwyn galluogi proses fwy effeithiol o fewn cyngor ac er mwyn ein galluogi i gynnig taliadau cyflymach (fel sydd o fewn ein hamodau masnachu a gytunwyd).

Rhaid i bob cyflenwr nwyddau a / neu wasanaethau dderbyn gorchymyn llafar neu ysgrifenedig yn unig pan roddir rhif gorchymyn prynu. Ni fydd unrhyw anfoneb a dderbynnir sydd ddim yn dyfynnu rhif gorchymyn prynu dilys yn cael ei brosesu a bydd yn cael ei ddychwelyd. Os na chyflwynwyd rhif gorchymyn prynu, dylech gysylltu ag aelod o staff a roddodd y cyfarwyddyd gwreiddiol i ofyn am un. Bydd hyn yn anochel yn golygu oedi wrth dalu a'r posibilrwydd o daliad yn cael ei wrthod gan nad yw'r gorchymyn yn cydymffurfio â'n hamodau masnachu.

30 diwrnod yw'r amodau talu safonol o dderbyn anfoneb sy'n dyfynnu rhoi Gorchymyn Prynu dilys.

Rydym yn dymuno gweithio gyda chyflenwyr mewn perthynas sydd o fudd i bawb ac mae'r gofyniad hwn yn rhan o'r broses. Bydd cyflenwyr yn cael budd o broses well a symlach i dalu anfonebau o fewn telerau masnachu sy'n cynnwys sicrhau fod gennym gyswllt e-bost lle bynnag y bo hynny'n bosibl  - fel y gallwn anfon gorchmynion prynu dros e-bost yn hytrach na phostio copïau papur.

Os ydych yn cyflenwi ein hysgolion, nid oes newid i'r broses dalu, ac nid ydych wedi'ch cynnwys yn y Polisi Dim GP, Dim Taliad.

Query an invoice with us here Cwestiwn am anfoneb

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu