Trwyddedau safleoedd a chlybiau
Mae un system yn bodoli ar gyfer trwyddedu safle sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwerthu alcohol, adloniant wedi'i rheoleiddio neu luniaeth hwyr y nos. Ni allwch ond gwneud y gweithgareddau hyn o dan y trwyddedau ar y tudalen hwn.
Gweithgareddau sydd angen trwydded:
- Manwerthu alcohol
- Os ydych yn cyflenwi alcohol i aelodau o'r clwb, neu werthu alcohol i westai aelod o'r clwb (ar gyfer rhai clybiau)
- Darparu adloniant wedi'i reoleiddio
- Gwerthu bwyd poeth neu ddiod rhwng 11.00 y nos a 5.00 y bore, (gan gynnwys bwyd parod ac arlwywyr symudol) oni bai eich bod yn westy, ffreutur staff neu'n wersyll.

Trwyddedau eiddo
Os yw eich busnes yn gwerthu alcohol neu'n cynnig adloniant neu fwyd neu ddiodydd hwyr y nos, byddwch angen trwydded safle.

Trwyddedau Clybiau
Mae Clybiau'n fudiadau lle mae'r aelodau wedi dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, chwaraeon neu wleidyddol ac i brynu swmp o alcohol i'w gyflenwi yn y clwb.

Trwyddedau personol
Rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu gwerthu neu gyflenwi alcohol neu awdurdodi gwerthu neu gyflenwi alcohol wneud cais am drwydded bersonol.

Ceisiadau trwyddedau safle / clwb presennol
Gallwch chi weld y ceisiadau trwydded cyfredol yma

Mân newidiadau i drwyddedau safle / clwb
Gall dalwyr trwyddedau safle a thystysgrifau safleoedd clwb wneud cais am 'fân amrywiadau' i'w trwyddedau, megis gwneud newidiadau bychain i ddiwyg y safle neu ychwanegu ambell i weithgaredd at y drwydded

Rhybudd O Ddigwyddiad Dros Dro
Mae Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro yn eich caniatau i gynnal un neu ragor o weithgareddau sydd angen trwydded ar eich safle am hyd at 168 awr.