Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau tacsis a llogi preifat

Mae Deddf Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat (yr Anabl) 2022 yn dod i rym ar 28ain Mehefin 2022

Mynediad i dacsis a cherbydau llogi preifat ar gyfer defnyddwyr anabl - GOV.UK (www.gov.uk)

Bydd yn diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i gyflwyno dyletswyddau newydd, a diwygio'r rhai sy'n bodoli eisoes, ar gyfer awdurdodau lleol a gyrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat (PHV) a gweithredwyr tebyg. Nod Deddf 2022 yw sicrhau bod pobl anabl yn gallu defnyddio gwasanaethau tacsis a cherbydau llogi preifat gyda hyder na fyddant yn cael eu gwahaniaethu.

Gofynion newydd ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr:

Mae'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth bresennol i yrwyr cerbydau dynodedig hygyrch i gadeiriau olwyn dderbyn cludo defnyddwyr cadeiriau olwyn, rhoi cymorth symudedd rhesymol iddynt, ac ymatal rhag codi mwy arnynt.

na theithwyr eraill. O 28 Mehefin, bydd pob gyrrwr a gweithredwr tacsis a cherbydau llogi preifat - p'un a yw'r cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn ai peidio - yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Bydd gofyn i yrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat:

• Dderbyn cludo unrhyw unigolyn anabl, rhoi cymorth symudedd rhesymol iddynt, a chario eu cymhorthion symudedd, i gyd heb godi mwy nag y byddent ar deithiwr nad yw'n anabl.

• Rhoi cymorth i unrhyw deithiwr anabl sy'n gofyn am help i nodi'r cerbyd addas, heb unrhyw dâl ychwanegol.

Bydd yn ofynnol i weithredwyr cerbydau llogi preifat:

• Dderbyn archebion ar gyfer neu ar ran unrhyw unigolyn anabl, os oes ganddynt gerbyd addas ar gael

Rydym yn argymell bod y gyrrwr neu'r gweithredwr yn gofyn i bob teithiwr a oes angen cymorth arnynt. Ar gyfer cerbydau wedi'u llogi, dylai hyn fod yn rhan o'r cam archebu. Ar gyfer tacsis, dylai hyn fod pan fydd y cerbyd yn cael ei alw neu'n mynd ato yn y safle tacsis neu ar y stryd.

Mae'n drosedd i weithredwyr / gyrwyr beidio â chyflawni'r dyletswyddau hyn.

Gall pob gyrrwr tacsi a cherbyd llogi preifat wneud cais am dystysgrif eithrio a hysbysiad am resymau meddygol

Eithriad ar gyfer cludo cadeiriau olwyn: ffurflen gais | LLYW.CYMRU

Eithriad i gludo cŵn cymorth: ffurflen gais | LLYW.CYMRU

Cedwir rhestr o gerbydau trwyddedig hygyrch i gadeiriau olwyn yma

Tacsis a thrwyddedau llogi preifat - Cerbydau sy'n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn - Cyngor Sir Powys

 

Newidiadau Pwysig o fis Ebrill 2022:

Mae'r awdurdod wedi cymeradwyo ac ymgynghori ar y Polisi Tacsis newydd yn seiliedig ar safonau Llywodraeth Cymru. Bydd y polisi hwn yn berthnasol i geisiadau a wneir o'r 1 Ebrill 2022:  Polisi Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat 2022 (PDF) [478KB]

Gellir dod o hyd i safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer y fasnach dacsis a llogi preifat yma Tacsis a cherbydau llogi preifat | Sub-topic | GOV.WALES

O'r 1 Ebrill, rhaid i bobGYRRWR wrth adnewyddu eu trwydded gofrestru ar gyfer y GWASANAETH DIWEDDARU DBS sy'n ein galluogi i gynnal archwiliad DBS pob 6 mis. Rhaid i ymgeiswyr danysgrifio i'r gwasanaeth diweddaru O FEWN 28 DIWRNOD o ddyddiad cyhoeddi'r dystysgrif. Y gost yw £13 y flwyddyn i danysgrifio (yn daladwy i'r DBS). Gellir dod o hyd i ddolen i danysgrifio i'r gwasanaeth diweddaru yma -  Gwasanaeth Diweddaru DBS - GOV.UK (www.gov.uk). Bydd methu â thanysgrifio i'r gwasanaeth diweddaru yn gallu arwain at eich trwydded yn cael ei GOHIRIO

Ar gyfer ceisiadau ADNEWYDDU Gyrwyr a Gweithredwyra gyflwynir WEDI'R 4 Ebrill 2022, bydd angen cyflenwi cod archwilio Treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Dyma ofyniad cyfreithiol newydd. Newidiadau ar gyfer ceisiadau trwyddedau tacsis, llogi preifat neu fetel sgrâp o fis Ebrill 2022 - GOV.UK (www.gov.uk) Heb god, ni fyddwn yn gallu adnewyddu eich trwydded.Fe fyddwch yn gallu cwblhau'r archwiliad treth hwn ar GOV.UK, trwy eich cyfrif Porth y Llywodraeth, gallwch gofrestru ar GOV.UK. Dim ond ychydig funudau ddylai'r archwiliad treth ei gymryd. Fe fydd cyfarwyddyd ar GOV.UK a gall unrhyw un sydd angen cefnogaeth ychwanegol gwblhau archwiliad treth drwy ffonio trwy'r llinell gymorth cwsmeriaid Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi 0300 200 3300.  

Cwblhau archwiliad treth ar gyfer trwydded tacsis, llogi preifat neu fetel sgrâp  - GOV.UK