Toglo gwelededd dewislen symudol

Pa ddeddfwriaeth ydym ni'n cyfeirio ati?

Mae Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 yn gorchymyn systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd i gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau).  Cyhoeddwyd y safonau statudol gan Lywodraeth Cymru, a gellir cael copi o'r safonau ar dudalen gwe Llywodraeth Cymru Systemau draenio cynaliadwy ar ddatblygiadau newydd

Mae Atodlen 3 DRhLlD 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Corff Cymeradwyo SDCau i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy'n cyd-fynd ag adran 17 yr Atodlen. I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, ewch i Atodlen 3 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010.