Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth yw egwyddorion llunio penderfyniadau?

Yr egwyddorion sy'n sail i broses llunio penderfyniadau'r Cyngor: 

  • Dylai'r camau gweithredu fod yn gymesur â'r canlyniadau.
  • Dylid sicrhau ein bod yn ymgynghori'n briodol ac yn rhoi sylw i gyngor proffesiynol ein swyddogion.
  • Dylai pob penderfyniad adlewyrchu parch tuag at hawliau dynol.
  • Dylem dybio y bydd ein penderfyniadau'n cael eu llunio mewn modd agored.
  • Dylem fod yn eglur ynghylch ein hamcanion a'r hyn rydym am ei gyflawni.
  • Dylem esbonio'r rheswm dros benderfyniad bob amser.
  • Dylem ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth.

 

Rhaid llunio'r holl benderfyniadau yn unol ag egwyddorion:

Didwylledd: Bod yn agored am benderfyniadau a chamau gweithredu'r Cyngor.

Ymatebolrwydd: Gwrando ar bob rhan o'r gymuned a dod o hyd i gydbwysedd fydd yn diwallu'r anghenion lleol orau.

Cynrychiolaeth: Dylai'r cyngor weithredu er budd y gymuned gyfan.

Stiwardiaeth: Dylem wneud yn siwr ein bod yn defnyddio'n adnoddau'n ofalus ac yn gyfreithlon, ac er budd y gymuned a wasanaethwn.

Integriti: Dylem annog cynghorwyr a gweithwyr y cyngor i gadw at y safonau moesol uchaf.

Cydraddoldeb: Dylem sicrhau bod pawb yn gallu cyrraedd ein gwasanaethau, a bod pawb yn derbyn gwasanaeth o'r un ansawdd.