Beth sy'n dylanwadu ar benderfyniadau?
Aelodau o'r Cyhoedd
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd, gallwch wneud y canlynol:
- Mynd i gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau (heblaw pan fyddant yn trafod materion personol neu gyfrinachol).
- Gweld unrhyw adroddiad nad yw'n gyfrinachol.
- Yn y Pwyllgor Cynllunio, gall un cefnogwr ac un gwrthwynebydd siarad am hyd at bum munud.
Ceir manylion hawliau siarad ym Mhrotocol Cynllunio'r Cyngor. Mae fersiwn ddiweddaraf o Protocol Cynllunio wrthi'n cael ei chyfieithu ar hyn o bryd. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am hawliau siarad, cysylltwch â'r Swyddog Cynllunio, neu Carol Johnson, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd 01597 826206 ebost: carol.johnson@powys.gov.uk
Mae'r Protocol hefyd yn rhoi manylion y rheolau ynglyn â lobïo Cynghorwyr sydd am barhau i fod yn 'Benderfynwr' am geisiadau cynllunio unigol. Oherwydd bod penderfyniadau cynllunio yn rhai lled-gyfreithiol a rheoleiddiol, ni all Cynghorydd sy'n 'Benderfynwr' ar bwyllgor cynllunio ganiatáu i unrhyw un ei lobïo, boed hynny o blaid neu yn erbyn cais. Bydd trafod cais cynllunio gyda lobïwr yn golygu na fydd y Cynghorydd yn cael bod yn rhan o'r broses benderfynu. Dylai rhai sy'n ystyried lobïo gysylltu â'r swyddog priodol yn y Gwasanaethau Cynllunio.
Gweithwyr y Cyngor
Os ydych yn gweithio i'r Cyngor, mae gennych gyfle yn eich swydd i gyfrannu at yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud a sut. Os bydd unrhyw benderfyniadau'n arwain at oblygiadau ar fudd neu les personol gweithwyr, mae gan y cyngor drefniadau ymgynghori ffurfiol gydag undebau llafur.
Aelodau Etholedig
Os ydych yn aelod etholedig, gallwch:
- Fynd i gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau
- Defnyddio trefniadau galw i mewn
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd
Gallwch weld rhagor o wybodaeth ar yr hyn y mae cynghorwyr yn ei wneud a sut i ddod yn gynghorydd eich hun trwy ddarllen y dudalen beth y mae Cynghorwyr yn ei wneud?.