Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth yw'r fframwaith ariannol?

Y fframwaith ariannol sy'n cwmpasu'r polisïau, y gweithdrefnau, y rheoliadau a'r rheolau sefydlog a ddefnyddiwn i sicrhau ein bod yn gofalu'n briodol am arian y cyhoedd.

Mae'r fframwaith hwn yn cynnwys y rheolau y mae'n rhaid i swyddogion a chynghorwyr eu dilyn i sicrhau bod arian y cyhoedd yn cael ei wario'n ddoeth, yn effeithlon ac yn effeithiol, a bod modd i'r bobl sy'n gwario arian y cyhoedd fod yn atebol.

Mae'r Adran Ariannol yn sicrhau bod cyllideb gyffredinol y Cyngor yn mantoli, a bod y cyfarwyddiaethau a'r gwasanaethau unigol yn cadw at eu cyllidebau ac yn gwario'r arian yn briodol.

Mae'r Prif Swyddog Cyllid yn gyfrifol am sicrhau bod penderfyniadau ariannol yn rhai call ac yn gyfreithiol.