Beth yw'r fframwaith moesol?
Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer Cynghorau Sir yng Nghymru. Mae'r Cod yn manylu ar safonau ymddygiad y mae disgwyl i Aelodau gadw atynt pan fyddant yn gwneud busnes y cyngor neu'n cynrychioli'r cyngor.
Datganiadau o Fudd
Mae'r Cod yn manylu ar y rheolau ynghylch datgan buddiannau allanol. Mae'n rhaid i Gynghorwyr gofrestru eu buddiannau ariannol ac eraill yng Nghofrestr Buddiannau'r Cyngor. Mae'r Cod hefyd yn dweud bod yn rhaid i gynghorydd gofnodi pob rhodd a lletygarwch gwerth £25 neu fwy a gynigir, p'un a dderbyniodd y cynghorydd y cynnig ai peidio. Gall y cyhoedd archwilio'r ddwy gofrestr.
Rhaid i gynghorydd â budd ddatgan y budd hwnnw. Os oes gan aelod fudd allanol y gellid ystyried ei fod yn effeithio ar ei allu i weithredu ar deilyngdod yr achos ac er lles y cyhoedd, mae'n rhaid i'r cynghorydd hefyd dynnu'n ôl o drafod y mater mewn cyfarfod oni bai fod Pwyllgor Safonau'r awdurdod yn rhoi caniatâd iddynt gymryd rhan. Mae manylion yr oddefeb y mae'r Pwyllgor Safonau'n ei chaniatâu i'w gweld trwy glicio ar y cyswllt canlynol.
Pwyllgor Safonau
Mae gan y Cyngor Bwyllgor Safonau sy'n cynnwys 4 cynghorydd a 5 aelod annibynnol. Mae'r pwyllgor yn hybu safonau ymddygiad uchel ac yn sicrhau bod y cynghorwyr yn cadw at God Ymddygiad.
Cod Ymddygiad Swyddogion
Mae'r Cyngor yn cadw at Orchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001. Mae hwn yn manylu ar y safonau ymddygiad y mae gan y cyhoedd hawl i'w disgwyl gan staff y cyngor sir. Rhaid i swyddogion weithredu gydag integriti, gonestrwydd, amhleidioldeb a gwrthrychedd a rhaid iddynt gofrestru unrhyw roddion neu letygarwch sy'n cael eu cynnig, p'un a dderbyniwyd y cynnig ai peidio, a gall y cyhoedd archwilio'r gofrestr yma.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cynhyrchu protocolau a chyfarwyddyd i helpu aelodau:
- Cyfansoddiad y Cyngor a Llywodraethu Corfforaethol:
- Protocol ynghylch rhoddion a lletygarwch
- Cyfarwyddyd o ran lobïo ynghylch materion cynllunio
- Protocol ynghylch y Berthynas rhwng Aelodau a Swyddogion
- Protocol ynghylch aelodaeth ar Bwyllgorau
- Protocol ynghylch hawliau Aelodau i wybodaeth (drafft ar y gweill)
- Protocol Cynllunio (PDF, 229 KB)
Mae'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol Cynghorau Sir Cymru yn wahanol i'r fersiwn ar gyfer Lloegr. Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy'n ymchwilio i honiadau bod cynghorwyr wedi mynd yn groes i'r cod ymddygiad.