I bwy mae'r Cyngor yn atebol?
Atebolrwydd Gwleidyddol
Cynhelir etholiadau'r cyngor bob 4-5 mlynedd.
Atebolrwydd Swyddogion
Rhaid i bob Cyngor enwi tri swyddog statudol - pennaeth gwasanaethau cyflogedig, y swyddog monitro, a'r prif swyddog ariannol. Mae pwerau a dyletswyddau arbennig gan y swyddogion hyn i ymyrryd pan fydd awdurdod yn gweithredu'n anghyfreithlon. Mae'r swyddogion hyn wedi'u gwarchod dan y gyfraith i'w caniatáu i gyflawni eu dyletswyddau heb ofn colli eu swyddi.
Ym Mhowys, y Prif Weithredwr yw Pennaeth Gwasanaethau Cyflogedig, Cyfreithiwr y Cyngor yw'r Swyddog Monitro, a'r Pennaeth Cyllid a Pherfformiad Corfforaethol yw'r prif swyddog ariannol.
Atebolrwydd Cyfreithiol
Mae manylion pwerau a dyletswyddau'r Cyngor i'w gweld mewn sawl Deddf Seneddol. Mae rhai o'r pwerau hyn yn rhai gorfodol, sy'n golygu bod rhaid i'r cyngor wneud beth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae rhai pwerau'n ddewisol, sy'n caniatáu i'r cyngor wneud rhywbeth os yw'n dymuno gwneud hynny.
Bydd Swyddog Monitro'r Cyngor yn sicrhau bod y Cyngor yn gweithio o fewn ffiniau'r ddeddf bob amser.
Archwilio ac Arolygu
Mae'r Cyngor yn atebol i amrywiaeth o reoleiddwyr ac arolygiaethau. Nhw sy'n darparu'r wybodaeth ar ba mor llwyddiannus ydym ni. Nod y fframwaith cenedlaethol yma, a sefydlwyd trwy statud neu gyfarwyddyd llywodraeth, yw sicrhau ein bod yn cynnig y safonau gwasanaeth sylfaenol.
Archwilio Allanol
Corff annibynnol a chanddo gyfrifoldebau statudol i archwilio sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yw Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hefyd yn hyrwyddo cynnydd yn economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus. Mae archwilio allanol yn rhan bwysig o sicrhau bod y cyngor yn atebol am y ffordd y mae'n gwario arian cyhoeddus. Mae archwilwyr allanol yn rhoi barn annibynnol ar ein cyfrifon blynyddol ac yn adrodd ar rai o'r dulliau a ddefnyddiwn i sicrhau ein bod yn cynnal materion ariannol ac yn defnyddio adnoddau'n gywir. Mae'r adroddiad yma ar ffurf llythyr archwilio.
Gwerth Gorau
Gwyddom mai sicrhau bod pobl a busnesau'n cael gwasanaethau da sy'n werth da am arian yw un o'n prif dasgau. Rydym felly'n croesawu deddfwriaeth y Llywodraeth sy'n gofyn i awdurdodau lleol wella'n barhaus trwy ddefnyddio egwyddorion Gwerth Gorau a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae'r Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n annibynnol ac yn ddiduedd. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim.
Gall yr Ombwdsmon edrych ar lywodraeth leol; sefydliadau'r Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys Meddygon Teulu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llawer o'r cyrff cyhoeddus y mae'n eu cyllido. O 1 Ebrill 2006 ymlaen, rhoddwyd pwerau ychwanegol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru drin ymddygiad Cynghorau Tref a Chymuned.
Bydd yr Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion bod cynghorwyr yr awdurdod lleol, gan gynnwys cynghorwyr cymuned, wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod.
Peter Tyndall yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd.