Toglo gwelededd dewislen symudol

Chwaraeon Anabledd

Cyd-fenter rhwng y canlynol yw rhaglen Datblygu Cymunedol Cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru:

Nod y cynllun yw datblygu cyfleoedd chwaraeon a hamdden cymunedol o safon i bobl anabl ar hyd a lled Cymru.

  • Cynyddu cyfranogiad
  • Creu a datblygu clybiau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes
  • Achredu clybiau a grwpiau
  • Dynodi a chefnogi gwirfoddolwyr a hyfforddwyr trwy gyrsiau.

Mae gan Bowys sail clybiau a hyfforddwyr gref, ac mae'n ymroddedig i ddarparu cyfleoedd cynhwysol i bobl o bob gallu.

Os ydych chi'n anabl ac mae yna gamp neu weithgaredd yr hoffech chi roi cynnig arni, neu i gael rhagor o wybodaeth am glybiau a grwpiau chwaraeon, ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru i weld beth allwch chi  ddod yn rhan ohono ar hyd a lled Powys.

Neu gallwch gysylltu â Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru i gofrestru a chael y newyddion diweddaraf ar stepen eich drws.