Toglo gwelededd dewislen symudol

Strwythurau Peryglus

Gall adeilad ddod yn beryglus yn sgil oed, dirywiad, tywydd garw, setliad y tir dano neu fandaliaeth. Weithiau mae'r achosion yn fwy dramatig, er enghraifft tân, ffrwydrad neu gael ei daro gan gerbyd.

Beth fydd y gwasanaeth Rheoli Adeiladu'n ei wneud?

Pan fydd Syrfëwr Rheoli Adeiladu'n ymweld â'r safle, bydd yn archwilio'r adeilad ac yn penderfynu pa mor beryglus ydyw a beth sydd angen ei wneud amdano i gadw pobl yn ddiogel. Mae'n bosibl y bydd yn gofyn i gontractwr weithredu ar unwaith naill ai i gael gwared ar yr adeilad, neu i'w wneud yn ddiogel.

Mewn achosion llai difrifol, byddai'r Syrfëwr Rheoli Adeiladu wedi trefnu i gau'r safle yn ddiogel i gadw pobl allan. Yna byddai'n cysylltu â pherchennog y safle i drafod sut y byddai ef neu hi yn gallu cywiro'r sefyllfa. Os nad yw'r perchennog yn trin y perygl, yna byddai'n rhaid dwyn achos yn y Llys Ynadon gan arwain at orchymyn y perchennog i wneud y gwaith angenrheidiol a bod yn gwbl gyfrifol am yr holl gostau cysylltiedig. Byddem yn gwneud y gwaith pe na byddai'r perchennog yn fodlon gwneud ei hun.

Mae gweithdrefnau'r Cyngor ar gyfer trin strwythurau peryglus i'w gweld yn Neddf Adeiladu 1984, ac os yw adeilad neu strwythur yn beryglus i'r cyhoedd, bydd yr Adran Rheoli Adeiladu'n ei wneud yn ddiogel.

Rhoi gwybod am Strwythur Peryglus Rhoi gwybod am Strwythur Peryglus