Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut ydw i'n ceisio cymeradwyaeth CCS?

Bydd y CCS yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio am dâl i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a beth sydd angen ei gyflwyno gyda'ch cais.  Er y bydd y broses hon ar wahan i'r broses o wneud cais cynllunio, bydd rhaid bod trafodaeth ac ymgynghori rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol, y CCS a'r datblygwr o'r cam cyn ymgeisio er mwyn sicrhau bod y dyluniad SDCau arfaethedig yn addas yn unol â safonau cenedlaethol a chynllun safle digonol a chymeradwyaeth CCS yn y pendraw.  Bydd y gwasanaeth hwn yn bwysig i helpu cyfyngu'r oedi i'r gymeradwyaeth a lleihau costau yn y tymor hir ac anogir yn gryf bod hyn yn digwydd cyn cyflwyno eich cais llawn.  

Rhaid cyflwyno ceisiadau llawn i'r CCS i'w dilysu a rhaid iddynt gynnwys:

  • cynllun yn manylu ar yr ardal adeiladu a graddau'r system ddraenio,
  • gwybodaeth o ran y modd y bydd y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â Safonau SDCau;
  • gwybodaeth y gofynnwyd amdani yn rhestr gyfeirio'r ffurflen gais
  • y ffi ymgeisio briodol.

Bydd 7 wythnos gan yr CCS i bennu ceisiadau ac eithrio'r rhai lle mae angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, lle bydd ganddo 12 wythnos.

Mae'r ffurflenni cais a'r canllawiau dogfennaeth ar gael i'w lawrlwytho oddi dudalen we hon. Bydd angen eu gwneud i'r SAB gan na ellir eu cwblhau neu eu cyflwyno drwy'r Porth Cynllunio holl geisiadau.

•             Cyngor SAB Cyn Cais Ffurflen (PDF) [1012KB]

•             SAB Lawn Ffurflen Gais (PDF) [1MB]

•             SAB Cymeradwyo Amodau Ffurflen (PDF) [479KB]

•             Canllawiau ar Wneud SAB SuDS ceisiadau (PDF) [466KB]

Sut ydw i'n cysylltu gyda fy CCS?

Y dyddiad cychwyn ar gyfer y gofyniad am gymeradwyaeth yw 7 Ionawr 2019 ac rydym ar hyn o bryd yn sefydlu ein gwasanaeth newydd i ymdrin â'ch ceisiadau a gwefan bwrpasol i gynnig gwybodaeth ychwanegol i chi pan fydd ar gael.

Yn y cyfamser, os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y broses newydd yma, cysylltwch â thim CCS Cyngor Powys trwy'r manylion isod

E-bost:  sab@powys.gov.uk

Ffôn:  01597 826000

Mae llawer iawn o wybodaeth ar gael ac mae'r tudalennau canlynol yn adnodd defnyddiol am ddim i gael rhagor o wybodaeth ar Ddraenio Cynaliadwy a'ch helpu chi i ddeall yr hyn y bydd angen i chi ei ystyried.