Panel Cymwysterau
Noder, i gael eich ystyried, rhaid i chi fod yn weithiwr i Gyngor Sir Powys a rhaid derbyn eich cais 10 diwrnod cyn dyddiad y Panel Cymwysterau. Ni fydd unrhyw geisiadau anghyflawn yn cael eu derbyn.
Diben y Panel Cymwysterau
Ystyried ceisiadau am unrhyw gymhwyster neu ddyfarniad y gallai aelod o staff ddymuno ymgymryd ag ef fel rhan o'i lwybr gyrfa a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) neu addysg a dysgu proffesiynol parhaus i weithwyr cymdeithasol (CPEL).
Galluogi, annog a hwyluso staff i barhau ymhellach â'u datblygiad personol a phroffesiynol.
Ystyried ceisiadau llawn a gyflwynwyd ar gyfer cymwysterau pellach/dyfarniadau achrededig gan staff o fewn:
- Gwasanaethau Cymdeithasol,
- Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc,
- Iechyd ac Addysg (h.y. staff Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gweithio mewn timoedd integredig ar draws Iechyd ac Addysg).
Noder mai dim ond pan fydd tystiolaeth eu bod yn rhoi cymorth uniongyrchol i'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol y bydd ceisiadau gan staff yn yr Uned Cymorth Busnes yn cael eu derbyn.
Gwirio bod y rheolwr llinell wedi dangos, ar y ffurflen gais, y bydd y dyfarniad neu'r cymhwyster y gwnaed cais amdano yn cefnogi strategaethau'r tîm a'r gwasanaethau ac yn gysylltiedig â'r rhain.