Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dewch i roi cynnig ar hyfforddi chwaraeon

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli? Neu a ydych yn hyfforddwr sydd am ddatblygu'ch cymwysterau a'ch profiad?

Mae'r rhan fwyaf o glybiau chwaraeon yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac mae angen pob math o gymorth arnynt i hwyluso gwaith y clwb. Boed hynny'n golchi dillad chwaraeon, gyrru plant i gemau, neu hyfforddi, gallwch chi helpu mewn sawl ffordd.

Nid dim ond y tîm a'r plant fydd yn elwa ychwaith. Gall gwirfoddoli a hyfforddi fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a dysgu medrau newydd.

Gall ein Cynllun Arweinwyr Egnïol eich helpu i ddod yn hyfforddwr neu wirfoddolwr. Maent yn cynnig cyrsiau addysg sylfaenol i hyfforddwyr ac yn rhoi cefnogaeth i'ch tywys ar hyd y llwybr  cyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.

Mae gwirfoddoli mewn chwaraeon yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel hyfforddi, datblygu chwaraewyr a chynnal sesiynau hyfforddi, i weinyddiaeth clybiau, codi arian a threfnu digwyddiadau, cystadlaethau a chynghreiriau. Gallwch chi gymryd rhan ar unrhyw lefel; p'un a ydych yn torri orennau, golchi dillad neu hyfforddi'r tîm - mae popeth yn cyfrif.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr neu hyfforddwr, cysylltwch â ni a bydd aelod o'n tîm yn dod yn ôl atoch i'ch helpu i gymryd rhan.