Arweinwyr Egnïol
Sefydlwyd prosiect Arweinwyr Egnïol gan Ddatblygu Chwaraeon Powys a'r tîm Pobl Ifanc Egnïol. Dyma eu nodau:
- I roi cyfleoedd i bobl wirfoddoli yn eu cymunedau a'u hysgolion lleol
- I recriwtio a chadw mwy o arweinwyr chwaraeon o'r ysgol i'r gymuned
- I greu strwythur ledled y wlad ar gyfer arweinyddiaeth gan ddatblygu llwybr cyfleoedd Arweinwyr Egnïol
- I ddatblygu strwythur gwobrwyo a chydnabyddiaeth ar gyfer Arweinwyr Egnïol
- I annog a datblygu arweinwyr ifanc mewn clybiau cynradd a chymunedol trwy'r Wobr Arweinwyr Ifanc
Gall dysgwyr ddod yn Drefnwyr Pobl Ifanc Egnïol trwy fynd ar gwrs un diwrnod a fydd yn eu dysgu sut i drefnu gweithgareddau corfforol diogel, hwyliog a phwrpasol i bob dysgwr ifanc. Hefyd maent yn gweithio o fewn nodau ac athroniaeth rhaglen Pobl Ifanc Egnïol. Gall dysgwyr dros ddeuddeg oed ddilyn y cwrs a chyflawni Gwobr Trefnydd Pobl Ifanc Egnïol a fydd yn cael ei hachredu gan Arweinwyr Chwaraeon y Deyrnas Unedig ar ran Chwaraeon Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd dysgwyr yn cael cydnabyddiaeth ffurfiol am gwblhau eu cwrs. Hefyd gallant ddefnyddio'r hyn maent wedi'i ddysgu yng Ngwobr Trefnydd Pobl Ifanc Egnïol tuag at gymwysterau Lefel 1 a 2 Arweinwyr Chwaraeon y Deyrnas Unedig.
I gael gwybodaeth am y gwobrau sydd ar gael trwy raglen Arweinwyr Egnïol a'r llwybr cyfleoedd hyfforddi ac arweinyddiaeth chwaraeon, defnyddiwch y dolenni isod.