Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llysgenhadon Ifanc

Nod y Mudiad Llysgenhadon Ifanc yw grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn fodelau rôl ac arweinwyr trwy chwaraeon. Maent yn gwneud hyn trwy ddatblygu eu hyder a'u sgiliau er mwyn ysgogi pobl eraill i gyfranogi o ymarfer corff.
Young Ambassadors logo

Defnyddiodd Llysgenhadon Ifanc Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 fel sbardun i annog i eraill newid. Ar ôl y Gemau Olympaidd, digwyddiadau chwaraeon mawr eraill fydd y brif ysbrydoliaeth megis Gemau'r Gymanwlad. Bydd y fenter yn cydnabod a gwobrwyo arweinwyr chwaraeon ymroddedig yn ein hysgolion a'n cymunedau trwy gynnig mwy o gyfleoedd a hyfforddiant iddynt hwy.

Rôl y Llysgenhadon Ifanc yw:

Cynyddu ffyrdd o fyw iach a nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn ymarfer corff yn eu hysgolion.

Hybu gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd megis Parch, Cyfeillgarwch, Rhagoriaeth Bersonol, Dewrder, Penderfyniad, Ysbrydoliaeth a Chydraddoldeb trwy chwaraeon.

I fod yn fodelau rôl trwy hybu gwersi Ymarfer Corff a chwaraeon mewn ysgolion.

I fod yn llais i bobl ifanc ar agweddau Ymarfer Corff a chwaraeon yn eu hysgolion, eu clybiau chwaraeon a'u cymunedau.

Am fwy o wybodaeth am gynllun Llysgenhadon Ifanc, ewch i'r gwefannau isod: