Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwastraff ac Ailgylchu - Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Pam rydym yn cymryd camau gweithredu?

Mae Cyngor Sir Powys yn gweithredu yn erbyn pobl sy'n cael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon i helpu i gadw Powys yn lân ac yn daclus. Mae gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yn gallu bod yn niweidiol i'n heconomi a'u hamgylchedd. Mae'n niwsans ac yn achosi problemau iechyd a diogelwch sylweddol. Mae hefyd yn difwyno amwynderau a'n lleoedd hardd.

 

Sut rydym yn gweithredu'r gyfraith yn erbyn pobl sy'n gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon?

Mae gan ein tîm hawl a gwarant i weithredu pob agwedd ar Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, gan gynnwys:

  • Tipio ar y slei
  • Taflu ysbwriel
  • Troseddau 'dyletswydd gofal' gwastraff
  • Camddefnyddio gwasanaethau casglu gwastraff

I roi gwybod i ni am faterion gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yn eich ardal, defnyddiwch ein gwasanaeth rhoi gwybod ar-lein

 

Am faint fyddwch yn cadw fy manylion ar eich cronfa ddata?

Rydym yn cadw data personol ar ein cronfa ddata i'n helpu i atal a datgelu troseddu ac yn cadw hwn yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.