Toglo gwelededd dewislen symudol

Ansawdd Aer

Gall ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu gael effaith sylweddol ar ein hiechyd.

Y prif ffynonellau ansawdd aer gwael yw allyriadau diwydiannol a thraffig ffordd.

Mae Llywodraeth Genedlaethol ac awdurdodau lleol wedi ymrwymo i wella ansawdd yr aer, ac erbyn hyn mae'r ymrwymiad hwn wedi dod yn gyfraith ysgrifenedig.

Y llygryddion sy'n achosi'r pryder mwyaf yw nitrogen deuocsid (NO2) sydd ag egni trothwy o 40ugm3 y flwyddyn, a deunydd gronynnol (PM10 a PM2.5).

Ewch i Ansawdd Aer Cymru am y data ansawdd aer cenedlaethol diweddaraf.

I helpu i wella ansawdd aer mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am y canlynol:

  • Canfod ardaloedd sydd ag ansawdd aer gwael a gweithredu i'w gwella. Traffig ffordd yw prif ffynhonnell ansawdd aer gwael ym Mhowys. Serch hyn nid yw ffordd brysur mewn ardal o reidrwydd yn golygu ei fod yn lle ansawdd aer gwael.
  • Rheoleiddio prosesau diwydiannol a all llygru'r atmosffer fel y nodwyd o dan reoliadau Atal a Rheoli Llygredd. Mae hyn yn cynnwys gorsafoedd petrol, chwareli a gweithfeydd trin coed.

Rydym yn adrodd ar ansawdd aer yn ein sir bob blwyddyn a gallwch ddarllen yr adroddiad diweddaraf isod.

Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2023 (PDF) [4MB]

Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2022 (PDF) [1MB]

Adroddiad ar Gynnydd Ansawdd yr Aer 2020 (PDF) [1MB]

Os oes angen copïau hŷn o'r dogfennau hyn arnoch, cysylltwch â ni.

Cyswllt

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau