Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2019

Mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gynnal Asesiad Digonolrwydd Chwarae (ADCh/PSA) bob tair blynedd a chynhyrchu cynllun gweithredu blynyddol. Rhaid iddynt ddangos eu bod wedi ystyried ac asesu'r materion a nodwyd yn Rheoliadau ADCh/PSA (Cymru) 2012 a chanllawiau Statudol.

 

"Mae chwarae'n cwmpasu ymddygiad plant sy'n cael ei ddewis yn rhydd, ei gyfarwyddo'n bersonol a'i ysgogi'n gynhenid. Caiff ei gyflawni am ddim nod na gwobr allanol, ac mae'n rhan sylfaenol ac annatod o ddatblygiad iach - nid yn unig i blant unigol, ond hefyd i'r gymdeithas y maent yn byw ynddi". 

Llywodraeth Cymru "Creu Cymru sy'n Gyfeillgar i Chwarae" 2012

 

"Yr hawl i chwarae yw hawliad cyntaf plentyn ar y gymuned. Chwarae yw hyfforddiant natur am oes. Ni all unrhyw gymuned dorri'r hawl honno heb wneud niwed dwfn a pharhaus i feddyliau a chyrff ei dinasyddion "

David Lloyd George (1925)

 

Mae Chwarae Cymru yn nodi mai chwarae yw un o'r ffyrdd hawsaf a mwyaf naturiol y gall plant o unrhyw oedran gymryd rhan mewn lefelau gweithgarwch corfforol angenrheidiol. Mae ymgynghoriad Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru yn rhestru chwarae fel prif ddylanwadwr ar ymddygiadau pwysau iach plant.

Ysgrifennwyd papur 'Gweithgaredd Corfforol Plant a Phobl Ifanc' gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2019. Mae'n gweld y cwricwlwm newydd fel cyfle i gynyddu gweithgaredd corfforol o fewn ysgolion, ynghyd â buddion eraill.

Mae'r papur yn argymell y dylai pob ysgol ddarparu mynediad ehangach i'w cyfleusterau i gymunedau lleol, a fydd yn annog mwy o weithgarwch corfforol a lle hygyrch y tu allan i'r diwrnod ysgol.

Fel rhan o'r cylch comisiynu, mae'r Asesiad Digonolrwydd Chwarae hwn wedi bod yn ymarferiad i adolygu'r gwaith a'r gweithgareddau dros y 3 blynedd diwethaf ers cwblhau'r asesiad diwethaf yn 2016.

Mae cynnal yr asesiad wedi dangos bod gennym nifer fawr o bartneriaid a rhanddeiliaid ym Mhowys sydd wedi ymrwymo i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd chwarae.

 

Sut gwnaethom ni hynny?

  • Ymgysylltu ag Ysgolion
  • Adborth gan blant a phobl ifanc mewn digwyddiadau chwarae
  • Arolygon papur ac ar-lein i blant, pobl ifanc, rhieni, gwaith chwarae, gwaith ieuenctid, lleoliadau hamdden a gofal plant, gweithwyr proffesiynol, cynghorau tref a chymuned
  • Ymgysylltu â rhieni / gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a grwpiau ar y cyrion
  • Cyfarfodydd lled-strwythuredig a thrafodaethau gyda gweithwyr proffesiynol arweiniol sy'n gysylltiedig â meysydd polisi a nodwyd mewn canllawiau digonolrwydd chwarae
  • Mapio a Chasglu Data - data a gasglwyd o ffynonellau presennol gan gynnwys; Comisiynu Plant, JSNA, Addysg, Cynllunio, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Hamdden ac Adloniant
  • Mae'r Fforwm Ieuenctid wedi bod yn rhan o hyn a gofynnwyd am farn yr aelodau ar gyflwr Chwarae ym Mhowys
  • Adborth o'r Diwrnodau 'Dweud eich Dweud' i Ysgolion Uwchradd a Chynradd a gynhaliwyd yng Ngogledd, Canol a De'r Sir
  • Mae ymatebion o Ffair Yrfaoedd ddiweddar, lle roedd dros 3000 o bobl ifanc yn bresennol wedi cyfrannu at yr asesiad
  • Trafodaethau gyda chymuned Sipsiwn a Theithwyr Aberhonddu a'u barn ar gyfleoedd a darpariaeth chwarae lleol
  • Rhoddodd Rhwydweithiau / Cymdeithasau Chwarae adborth o ddigwyddiadau chwarae a gynhaliwyd dros yr haf.  Lefelau boddhad a gofnodwyd yn uniongyrchol gan blant ac arsylwadau gan weithwyr chwarae

 

Yr hyn a ddywedodd pobl

Beth sy'n ddaBeth sydd ddim cystal
Llwybrau cerddedBeth sydd ddim cystal
Teimlo'n ddiogelDiffyg lle ar gyfer pobl ifanc hŷn
Mannau GwyrddCeir
Awyr iachPalmentydd cyfyngedig
CoedDiffyg safleoedd ar gyfer beiciau a byrddau sgrialu
Beiciau diogel i'w reidioSbwriel
AnifeiliaidCludiant Cyhoeddus
ParciauCost cludiant
Y gymuned gyfagosCŵn yn baeddu
Lle i bêl-droed

Natur wledig

 

 

Yn gyffredinol pa mor dda yw eich cyfleoedd i chwarae a hel at eich gilydd?

 20162019
Maen nhw'n wych ac ni ellid eu gwella ryw lawer3%57%
Maen nhw'n dda ond gellid eu gwneud hyd yn oed yn well28%23%
Maen nhw'n dda ond mae angen eu gwneud yn well61%9%
Dydyn nhw yn ddim gwerth ac mae angen eu gwneud yn llawer gwell8%11%

 

 

Ydych chi'n cael digon o amser i chwarae neu ddod at eich gilydd fel ffrindiau?

 20162019
Nac ydw, mae ama iangen llawer mwy o amser12%8%
Nac ydw, hoffwn gael ychydig yn fwy o amser37%21%
Ydw, tua digon o amser11%35%
Ydw, mae gen i ddigon o amser40%36%

 

 

Rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chwblhau ADCh/PSA 2019

  • Gweithredu dros Blant  
  • Gwasanaethau Llyfrgell
  • Gwasanaethau Teithio Llesol      
  • Bwrdd Gwasanaethau Lleol
  • Gwasanaeth Comisiynu Oedolion            
  • Tîm Hamdden Awyr Agored
  • Gwybodaeth Busnes     
  • PAVO
  • Cymorth Busnes Gofal Plant       
  • Gwasanaethau Cynllunio     
  • Swyddog Digonolrwydd Gofal Plant         
  • Rhwydweithiau Chwarae
  • Tîm Comisiynu Plant      
  • Dawns Powys
  • Gwasanaethau Plant     
  • Fforwm Ieuenctid Powys
  • Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu         
  • Iechyd y Cyhoedd
  • Eiddo Corfforaethol       
  • Gwasanaeth Ysgolion
  • Cynghorwyr      
  • Cefnogi Pobl   
  • Creu Chwarae   
  • Swyddog Dyfodol Cynaliadwy
  • Gofalwyr Ifanc Credu     
  • Tîm o Amgylch y Teulu
  • Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd              
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Addysg Diogelwch Traffig a Ffyrdd
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd  
  • Adran Hyfforddiant
  • Dechrau'n Deg  
  • Gwasanaethau Trafnidiaeth
  • Freedom Leisure             
  • Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Ysgolion Iach / Cyn-ysgolion Iach              
  • Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth
  • Gwasanaethau Priffyrdd              
  • Tîm Cymwysiadau'r We
  • Elusen Plant Honey Pot 
  • Swyddog yr Iaith Gymraeg
  • Gwasanaethau Tai          
  • Swyddog Cyfranogiad / Ymgysylltu â Phobl Ifanc
  • Gwasanaeth Integredig Anabledd Plant 
  • Gwasanaethau Ieuenctid

 

Sut y byddwn yn datblygu ac yn cyflwyno'r Cynllun Gweithredu

Ymgysylltu a chyfathrebu rheolaidd gyda phartneriaid a sefydliadau a fydd yn parhau fel mecanwaith effeithiol i:

  • hyrwyddo
  • galluogi (lle bo hynny'n bosibl)
  • cydlynu arfer gorau ar gyfer chwarae led led y sir, i fonitro cynnydd, datblygiadau neu newidiadau. Bydd hyn yn dibynnu ar y lefel isaf o adnoddau i wneud iddo ddigwydd.

Yn ychwanegol at hyn, mae'r ymateb positif a dderbyniwyd oddi wrth randdeiliaid o ganlyniad i gynnal yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae, wedi helpu i ddynodi ystod eang o bartneriaid sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mwy yn y broses.

Fe fyddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phlant a phobl ifanc sydd â mecanwaith lle y gallant adnabod a chefnogi agweddau, ymddygiadau a datblygiadau chwarae positif o gam cynllunio ac atal cynnar.

Ond gallai ansicrwydd o ran cyllid yn y dyfodol i gefnogi seilwaith a darpariaeth olygu bod llai o adnoddau ar gael i godi'r safonau mewn gwaith chwarae i wneud y gorau o ymddygiad chwareus plant.

 

Beth fyddwn ni'n ei wneud?

Y bwriad yw y bydd y camau gweithredu a nodwyd o'r Asesiad Digonolrwydd yn cael eu trafod gydag unigolion, gwasanaethau a sefydliadau allweddol i sicrhau dilyniant ar sail aml-asiantaeth. Bydd gwreiddio'r camau gweithredu yng ngwaith cynllunio asiantaethau yn hanfodol i gyflawni'r canlyniadau gofynnol.

 

Pwy sy'n mynd i'w arwain?

  • Aelod Arwain - Portffolio i Bobl Ifanc a Diwylliant
  • Aelod Arwain dros yr Economi a'r Amgylchedd

 

Grŵp Monitro Chwarae

  • Rheolwr Strategaeth a Datblygu Gwasanaeth, Hamdden ac Adloniant
  • Rheolwr Comisiynu Strategol Plant
  • Swyddog Comisiynu a Phrosiectau Plant  
  • Rheolwr Gwasanaeth Tai yr Awdurdod Lleol
  • Yn ogystal â rhanddeiliaid a phartneriaid ehangach yn ôl yr angen

 

Meysydd gwella allweddol yn ystod 2016-2019 (ers yr asesiad diwethaf)

Newidiodd statws RAG y canlynol o Goch i Ambr yn ystod y cyfnod:

Mater D: Darpariaeth dan Oruchwyliaeth

Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu eiddo cyngor a lle am ddim i sefydliadau sy'n darparu darpariaeth chwarae i blant am ddim (yn y pwynt mynediad) - mae'r gweithgareddau y mae'r ALl yn eu darparu yn defnyddio'r eiddo presennol. Bydd sefydliad Trydydd Sector yn cynnwys costau man cyfarfod yn unrhyw gais am nawdd grant i alluogi teuluoedd i gael mynediad i ddarpariaeth am ddim. Prosiect SHEP mewn 4 ysgol ar draws Powys. Mae Sesiynau AFC yn ardaloedd Dechrau'n Deg yn darparu ystafelloedd am ddim o dan y cytuniad comisiynu.

Mater E: Ffioedd am ddarpariaeth chwarae

Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant â chymhorthdal i blant sy'n teithio i gyfleoedd chwarae - Mae yna amrediad o wasanaethau bws â chymhorthdal sy'n teithio heibio i ardaloedd chwarae. Bydd plant a phobl ifanc sy'n talu i gystadlaethau chwaraeon neu weithgareddau corfforol neu ddigwyddiadau tebyg yn derbyn cludiant â chymhorthdal a delir gan yr ALl ac yn gofyn am gyfraniad rhiant/gofalwr.

Mater G: Sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae

Mae gan yr Awdurdod Lleol gyllideb datblygu staff wedi'i neilltuo ar gyfer chwarae, gan gynnwys gwaith chwarae - Bydd nawdd ar gyfer hyfforddiant o dan Ddatblygiad y Gweithlu Integredig yn cael ei flaenoriaethu er mwyn mynd i'r afael â safonau sylfaenol AGGCC. Lluniwyd proffil OOSCG fel bod modd cyflenwi hyfforddiant gwaith chwarae.

Newidiodd statws y canlynol o Ambr i Wyrdd RAG yn ystod y cyfnod:

Mater B: Darparu ar gyfer Anghenion Amrywiol

Mae dealltwriaeth a darpariaeth i gyflawni gofynion gofalwyr ifanc - Darperir gweithgareddau ar gyfer Gofalwyr Ifanc trwy Credu. Mae'r holl ddarpariaeth chwarae arall yn cael ei gynnig i bawb fel arfer cynhwysol.

Mater C: Lle sydd ar gael i blant chwarae: Mannau Agored mannau chwarae  awyr agored dynodedig heb staff

Mae'r Awdurdod Lleol wedi cyflwyno mannau chwarae di-fwg - mae C&ODR wedi gosod arwyddion 'Dim Ysmygu' yn y rhan fwyaf o ardaloedd chwarae penodol ymhob cwr o Bowys, gan gynnwys ar y safleoedd y mae CSP a Chynghorau Bro a Chymuned yn berchen arnynt.

Mae pob un o feysydd chwarae'r ALl ac ysgolion yn ddi-fwg.

Mae'r Awdurdod Lleol wedi symud yr holl arwyddion 'dim chwaraeon pêl' i annog rhagor o blant i chwarae yn y gymuned - Mae'r adran eiddo corfforaethol wedi symud yr holl arwyddion oni bai fod yna broblemau hysbys sy'n golygu bod yn rhaid cadw at yr wybodaeth ar yr arwyddion.

Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod pwysigrwydd meysydd chwarae ar gyfer chwarae plant wrth wneud unrhyw benderfyniadau gwaredu.

Cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio, rhaid i ddatblygwyr wneud 'Asesiad Mannau Agored', yn enwedig lle mae gwaredu yn ymwneud â mannau agored.

Mae'r holl feysydd chwarae a reolir gan C&ODR yn cael eu harchwilio a'u hasesu'n rheolaidd.

Mater D: Darpariaeth dan oruchwyliaeth

Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw cofnodion ar yr holl ddarpariaeth chwarae a oruchwylir fel y disgrifir yn y Cyfarwyddyd Statudol. Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS), fel y man canolog am ymholiadau o ran gofal neu chwarae plant, sy'n dal y wybodaeth hon.

Mae tudalennau'r gwasanaeth Hamdden hefyd yn cynnwys rhagor o fanylion am ddarpariaeth dan oruchwyliaeth y Cyngor. Yn ogystal â hyn, mae InfoEngine a Dewis yn darparu cronfa ddata ar-lein y gall sefydliadau ei defnyddio i gofrestru eu darpariaeth.

Mae darpariaeth chwarae sy'n cael eu staffio led led yr Awdurdod Lleol yn gweithio hyd at raglen sicrhau ansawdd cydnabyddedig.

Bydd gweithwyr chwarae yn gweithio i safonau AGGC a bydd asesiadau risg a pholisïau statudol ar waith iddynt.

Mae darpariaeth chwarae â staff ar draws yr Awdurdod Lleol yn gweithio i safonau rhaglen sicrhau ansawdd gydnabyddedig.

Mae'r Gwasanaeth Cefnogi Busnes Gofal Plant yn cynnig sicrwydd ansawdd i leoliadau a chefnogaeth iddynt gyrraedd y safonau cenedlaethol isaf.

Gall lleoliadau trydydd sector ddefnyddio PQASSO a rhaglenni sicrhau ansawdd eraill fel Cylch Rhagorol y Mudiad Ysgolion Meithrin a Chymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru (Wales PPA).

Mater E: Ffioedd am Ddarpariaethau Chwarae

Mae'r Awdurdod Lleol yn cofnodi pa ddarpariaethau sydd ar gael am ddim, ac mae'r Awdurdod Lleol yn cofnodi eiddo a ddarperir am ddim/am gost isel sy'n cael eu defnyddio am ddarpariaeth chwarae - Trwy'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS), DEWIS ac InfoEngine.

Mater F: Mynediad ag ofod/darpariaeth

Mae'r Awdurdod Lleol yn rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd i'w helpu i annog eu plant i chwarae - Trwy FIS, Dechrau'n Deg, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), Ymgyrch Rhowch Amser Iddo, Y Blynyddoedd Rhyfeddol, SHEP, Freedom Leisure a chydweithwyr ym maes Iechyd.

Mater G: Sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae

Mae'r Awdurdod Lleol yn cefnogi'r holl weithlu i gyflawni'r lefel cymhwyster sy'n ofynnol gan Safonau Cenedlaethol Isaf Llywodraeth Cymru - gwneir cysylltiadau gyda'r strategaeth gofal plant a datblygiadau gweithlu integredig. Mae'r grant OOSCG wedi cefnogi Dyfarniad Lefel 3 mewn Pontio i Waith Chwarae o Flynyddoedd Cynnar yn ystod y tair blynedd diwethaf.

 

Mae sesiynau hyfforddiant ar gael i weithwyr proffesiynol a'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau y mae eu gwaith yn effeithio ar gyfleoedd plant i chwarae - Mae hyn wedi bod yn rhan o'r Datblygiad Proffesiynol Parhaus sydd ar gael - gan gynnwys :

  • 2 Gynhadledd gan Bowys,
  • gweithdai gwaith chwarae,
  • ymweliadau â mannau chwarae eraill,
  • lleoedd a ariennir i fynd i Gynhadledd Chwarae Cymru.

Mater H: Ymgysylltiad a chyfranogiad Cymunedol.

Mae'r Awdurdod Lleol yn hyrwyddo ymgysylltiad cymunedol - Mabwysiedir  Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol a'u defnyddio gan yr Awdurdod Lleol wrth ymgynghori ynglŷn â gwasanaethau. Cefnogir ac anogir sefydliadau trydydd sector i arddel Safonau Cyfranogiad Pobl Ifanc. Hefyd, mae gweithgareddau sefydliadau cymunedol yn gweithio i ddarparu cyfleoedd chwarae yn y cymunedau.

Mater I: Chwarae yn yr holl agendâu polisi a gweithredu

Bydd ysgolion yn sicrhau bod gan y plant amgylchedd chwarae cyfoethog i gael egwyl ynddo yn ystod y diwrnod ysgol - mae'r Fenter Ysgolion Iach yn golygu bod ysgolion wedi defnyddio elfennau chwarae i helpu i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a darparu amrywiaeth o weithgareddau yn ystod amser chwarae.

Mae rhaglen gwrthfwlio KIVA yn cefnogi plant i ddelio gyda gwrthdaro. Mae'r rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol mewn ysgolion yn cynnig diwylliant o ymddygiad positif.

Mae nifer o feini prawf o fewn y Pecyn Offer a gofnodwyd ar statws COCH yn 2016 sy'n parhau i fod yn GOCH yn 2019, sef:

Mater F: Mynediad i le/darpariaeth

Mae'r Awdurdod Lleol yn ystyried anghenion plant i gael mynediad i gyfleoedd chwarae wrth wneud iddo gynllunio a gwario ym maes cludiant cyhoeddus.

Mater I: Chwarae yn yr holl agendâu polisi a gweithredu

Mae'r Cynllun Cludiant Lleol yn nodi ffyrdd o asesu a mynd i'r afael ag anghenion yr holl grwpiau, gan gynnwys y rheiny sy'n aml wedi'u hymyleiddio.

Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnig darpariaeth yswiriant trwy gynllun yr Awdurdod Lleol i bob darparwr chwarae trydydd sector a chynghorau cymuned.

Meini Prawf yn y Pecyn Offer lle gwelwyd newid yn y statws RAG o Wyrdd i Ambr neu Ambr i Goch;

Mater C: Lle sydd ar gael i blant chwarae: Mannau Agored mannau chwarae  awyr agored dynodedig heb staff

Bydd safleoedd tir llwyd sydd ym mherchnogaeth yr Awdurdod Lleol yn cael eu hasesu ar gyfer potensial y safle i gael ei hawlio'n ôl i ddarparu man chwarae i blant.

Mater D: Darpariaeth dan oruchwyliaeth

Mae Gwasanaeth Ieuenctid yr Awdurdod Lleol yn darparu ar gyfer cyfleoedd plant i gael hamdden a chymdeithasu.

Mater F: Mynediad i le/darpariaeth

Mae'r Awdurdod Lleol yn defnyddio grantiau diogelwch ffordd a/neu gyllid arall i gyflenwi hyfforddiant seiclo plant i'r safonau cenedlaethol.

Mater G: Sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae

Mae amrywiaeth cynhwysfawr o gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gael i weithwyr chwarae yn yr ardal.

 

Y ffordd ymlaen

Tra'n cwblhau'r asesiad, fe wnaethom sylwi ar nifer o themâu oedd yn ailgodi, megis:

  • yr angen am grwpiau ffocws a digwyddiadau ymgynghori - yn enwedig gyda grwpiau lleiafrifol,
  • datblygu gweithio ar y cyd,
  • amcanion a deilliannau,
  • yr angen am gydweithrediad rhwng partneriaid,
  • ymgysylltu gyda chymunedau i werthfawrogi a buddsoddi yn ein plant a phobl ifanc
  • yr angen am ddatblygu ystod o ddeunyddiau marchnata, hyrwyddo a chyhoeddusrwydd i godi proffil chwarae.

Mae'r Cynllun Gweithredu wedi cael ei drafod a'i gytuno gan:

  • Aelod Arweiniol, Rheolwr Gwasanaeth a Datblygu Strategaeth ar gyfer Tai a Datblygiad Cymunedol;
  • Rheolwr Partneriaeth Dros Dro ar gyfer Comisiynu Plant a Chomisiynu a'r Swyddog Prosiectau.

Bydd y Cynllun Gweithredu'n cael ei adolygu'n flynyddol a'i ddosbarthu i bartneriaid trwy nifer o sianeli, gan gynnwys cyfarfodydd Partneriaeth Chwarae hanner blynyddol.

Mae llawer o newidiadau ac ad-drefnu o fewn yr awdurdod lleol o ran strwythurau, gwasanaethau a staff, wedi arwain at gynnydd mewn ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o'r agenda chwarae. Bydd hyn yn caniatáu i broffil chwarae gynyddu led led Powys er mwyn cyflwyno Cyfleoedd Chwarae Digonol ar gyfer y dyfodol.

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Datblygu gwefan CSP
  • Pryd: Blwyddyn 1
  • Targedau: Diweddaru'r safle i gynnwys map rhyngweithiol, cyfeirio at fecanwaith ar gyfer Dewis a'r Info Engine ar gyfer darparwyr, hysbysu, hyrwyddo a chodi'r proffil
  • Cysylltiadau â Materion: Mater F
  • Adnoddau, gan gynnwys costau:: £2,321.95
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): LlC - Cyllid cyfleoedd chwarae fel rhan o ADCh/PSA

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Datblygu trefi Teithio Llesol ymhellach i gynyddu cerdded a beicio
  • Pryd: Bob blwyddyn
  • Targedau: Cytuno ar drefi / ardaloedd gan ddefnyddio'r data sydd ar gael a'r anghenion a nodwyd
  • Cysylltiadau â Materion: Materion E, F ac I 
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion, datblygu gwirfoddolwyr, gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned, nid yw'r costau'n hysbys eto
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Cyllid Teithio Llesol ond efallai y bydd angen arian ychwanegol

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Hyrwyddo pwyntiau data gwybodaeth (Dewis / Info Engine) a chyfleoedd cyfeirio
  • Pryd: Blwyddyn 1
  • Targedau: Annog partneriaid a sefydliadau i ddiweddaru a defnyddio, cwsmeriaid i ddefnyddio un ffynhonnell gwybodaeth
  • Cysylltiadau â Materion: Materion D ac F 
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Adnoddau presennol

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Sicrhau bod data ar gael i eraill (hyrwyddo, lledaenu, rhannu) ac at ddibenion cynllunio
  • Pryd: Bob blwyddyn
  • Targedau: Dulliau a ffynonellau i'w trafod a'u cytuno
  • Cysylltiadau â Materion: Materion A, B a G 
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Cyllidebau / cyllid presennol

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Amrywiaeth ehangach o ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghori a grwpiau ffocws
  • Pryd: Bob blwyddyn
  • Targedau: O leiaf tri grŵp bob blwyddyn - yr union grwpiau i'w cytuno
  • Cysylltiadau â Materion: Materion A, B, F ac I 
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion, cyfleusterau, deunyddiau ar gyfer digwyddiadau
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Efallai y bydd angen cyllid ychwanegol - nodi'r adnoddau presennol

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Hyrwyddo gwefan Chwarae Cymru
  • Pryd: Blwyddyn 1
  • Targedau: Trwy wefan CSP a phartneriaid
  • Cysylltiadau â Materion: Mater F
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Cyllidebau / cyllid presennol

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Datblygu cysylltiadau, ymgysylltu a chydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned
  • Pryd: Bob blwyddyn
  • Targedau: O leiaf dri Chyngor Tref a Chymuned bob blwyddyn - yr union ardaloedd i'w cytuno
  • Cysylltiadau â Materion: Materion A, B, C, F a H
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion a Chynghorau Tref a Chymuned, efallai y bydd angen deunyddiau ac adnoddau ychwanegol
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Cyllidebau / cyllid presennol, efallai y bydd angen cyllid ychwanegol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Datblygu rhaglenni sgiliau bywyd awyr agored a llythrennedd corfforol
  • Pryd: Blwyddyn 2
  • Targedau: Gweithio gyda'r gwasanaeth ysgolion a darparwyr eraill
  • Cysylltiadau â Materion: Mater I
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion, gwirfoddolwyr, efallai y bydd angen ymarferwyr arbenigol
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Efallai y bydd angen cyllid ychwanegol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Ystyried pobl hŷn a chwarae
  • Pryd: Blwyddyn 1
  • Targedau: Sgyrsiau cychwynnol gyda Gwasanaethau Oedolion a darparwyr
  • Cysylltiadau â Materion: Mater I
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Cyllidebau / cyllid presennol

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Cysylltiadau ag ADY a rhaglenni gweddnewid y cwricwlwm newydd
  • Pryd: Blwyddyn 1
  • Targedau: Prosiect peilot mewn ardal clwstwr ysgolion
  • Cysylltiadau â Materion: Mater I
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion, efallai y bydd angen ymarferwyr arbenigol
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Efallai y bydd angen cyllid ychwanegol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Datblygu cydweithio, amcanion a chanlyniadau
  • Pryd: Bob blwyddyn
  • Targedau: Yn gysylltiedig â blaenoriaethau a chynlluniau corfforaethol allweddol eraill, cynlluniau a rhaglenni ar y cyd i'w cytuno gyda phartneriaid
  • Cysylltiadau â Materion: Materion A, C, D ac F 
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion, nid yw'r costau ar gyfer prosiectau ychwanegol yn hysbys eto
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Efallai nad yw'r cyllidebau presennol yn cynnwys capasiti ar gyfer prosiectau / amser ychwanegol sydd eu hangen i wneud y gwaith hwn

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Nodi a chaffael ffrydiau / grantiau ariannu ychwanegol
  • Pryd: Bob blwyddyn
  • Targedau: Bydd hyn yn ofynnol os nad yw'r adnoddau presennol yn caniatáu i flaenoriaethau / camau gael eu cyflawni
  • Cysylltiadau â Materion: Materion B, G, H a I  
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes):

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Datblygu a gweithredu safonau ansawdd y cytunwyd arnynt ymhellach
  • Pryd: Blwyddyn 2
  • Targedau: Y safonau presennol i'w cynnal, cyfres o safonau priodol i'w cytuno ar gyfer y dyfodol
  • Cysylltiadau â Materion: Materion B a D   
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion, nid yw'r costau ar gyfer prosiectau neu adnoddau ychwanegol yn hysbys eto
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Efallai nad yw cyllidebau presennol yn cynnwys capasiti ar gyfer prosiectau / amser ychwanegol sydd eu hangen i wneud y gwaith hwn

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Datblygu darpariaeth gwyliau a chyfleoedd ar gyfer grwpiau penodol ymhellach
  • Pryd: Blwyddyn 1
  • Targedau: Cyfarwyddyd o grŵp 'Start Well' parthed: math a maint y ddarpariaeth
  • Cysylltiadau â Materion: Mater D   
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion, nid yw'r costau ar gyfer prosiectau neu adnoddau ychwanegol yn hysbys eto
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Bydd angen cyllid ychwanegol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, efallai y bydd rhywfaint o gyllid presennol ar gael

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Datblygu ystod o ddeunyddiau marchnata, hyrwyddo a chyhoeddusrwydd i godi proffil chwarae
  • Pryd: Blwyddyn 1
  • Targedau: Cynllun marchnata, hyrwyddo a chyhoeddusrwydd i'w gytuno rhwng partneriaid
  • Cysylltiadau â Materion: Mater G   
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion, nid yw'r costau ar gyfer prosiectau neu adnoddau ychwanegol yn hysbys eto
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Efallai nad yw cyllidebau presennol yn cynnwys capasiti ar gyfer prosiectau / amser ychwanegol sydd eu hangen i wneud y gwaith hwn

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Partneriaid, gwasanaethau, rhanddeiliaid allweddol, swyddi dylanwadol a sefydliadau i gydnabod pwysigrwydd chwarae a'i gydnabod wrth gynllunio, darparu a chyflwyno gwasanaethau.
  • Pryd: Blwyddyn 1
  • Targedau: ADCh/PSA i'w ddosbarthu i randdeiliaid allweddol, bydd yr aelodau'n cael eu briffio, cyfarfodydd Digonolrwydd Chwarae yn y dyfodol i'w cynllunio
  • Cysylltiadau â Materion: Materion F ac I    
  • Adnoddau, gan gynnwys costau: Amser swyddogion, nid yw'r costau am adnoddau ychwanegol os oes eu hangen ar gael
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Efallai nad yw cyllidebau presennol yn cynnwys capasiti ar gyfer yr amser sydd ei angen i wneud y gwaith hwn

 

  • Gweithredu / Blaenoriaethau: Gwaith pellach gydag ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth o chwarae a defnydd cymunedol o diroedd ysgol
  • Pryd: Blwyddyn 2
  • Targedau: Gweithio gydag ysgolion a gwasanaeth ysgolion, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon, llywodraethwyr a rhieni, grwpiau a sefydliadau eraill i gymryd rhan
  • Cysylltiadau â Materion: Mater I
  • Adnoddau, gan gynnwys costau:  Amser swyddogion i ddechrau, nid yw'r costau am adnoddau ychwanegol os oes eu hangen ar gael
  • Ffynhonnell ariannu (ffrydiau ariannu newydd neu rai sy'n bodoli eisoes): Efallai nad yw cyllidebau presennol yn cynnwys capasiti ar gyfer prosiectau / amser ychwanegol sydd eu hangen i wneud y gwaith hwn

 

Am fwy o fanylion a gwybodaeth edrychwch ar yr  Asesiad Digonolrwydd Chwarae llawn. (PDF) [1MB]