Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad Blynyddol Gwrth-Gaethwasiaeth 2021-22

Cyflwyniad

Ni fydd Cyngor Sir Powys yn goddef caethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn ein sefydliadau na'n cadwyni cyflenwi. Byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau bod systemau ar waith i fabwysiadu a hyrwyddo cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogi moesol yn ein cadwyni cyflenwi.

Mabwysiadodd y Cyngor God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogi Moesol yn y Gadwyn Gyflenwi ar 31 Ionawr 2018, a mabwysiadodd ein Polisi Caethwasiaeth Fodern cyntaf mewn cyfarfod o'r Cabinet ar 11 Gorffennaf 2018. Mae'r datganiad yma'n manylu ar y camau a gymerwyd gennym i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl ac i hyrwyddo cyflogaeth foesol a thryloywder yn ein cadwyn cyflenwi. Mae ein dogfen Cynllun Gwrth-Gaethwasiaeth Cyngor Sir Powys yn manylu ar sut y byddwn yn gwneud hyn.

Rydym hefyd wedi penodi'r Cynghorydd Aled Wyn Davies yn Hyrwyddwr Caethwasiaeth Fodern.

Pwy ydym ni, a beth rydym yn ei wneud

Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am amrywiaeth eang o wasanaethau yn yr ardal i unigolion, cymunedau a busnesau. Mae'r Cyngor wedi gosod ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol i fod yn Gyngor agored a mentrus yn ei Weledigaeth 2025.

Ein Polisi ar Gaethwasiaeth Fodern

Mae Polisi Caethwasiaeth Fodern Cyngor Sir Powys yn mabwysiadu dull integredig gan ddwyn ynghyd meysydd allweddol o ofal cymdeithasol, diogelu, cefnogi polisi, adnoddau dynol, caffael, gwasanaethau cwsmer, iechyd yr amgylchedd, gwasanaethau tai a digartrefedd a threfniadau dinesig wrth gefn.

Mae Polisi Gwrth-Gaethwasiaeth Cyngor Sir Powys yn trafod y 12 ymrwymiad o fewn 'Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogi Moesol yn y Gadwyn Gyflenwi', a hefyd yn cyfeirio at brosesau a chyfrifoldebau diogelu dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015.  Rydym wedi hysbysu Llywodraeth Cymru ein bod yn gwbl ymroddedig i gydymffurfio â'r Cod.

Ein Proses i Fynd i'r Afael â Chaethwasiaeth Fodern a Masnachu mewn Pobl, gan Gynnig Cefnogaeth i Oroeswyr


Rydym yn cydnabod bod rôl Cyngor Sir Powys o ran atal Caethwasiaeth Fodern, yn cynnwys adnabod a chefnogi dioddefwyr a gweithio mewn partneriaeth yn lleol.

Mae gennym brosesau ar waith i gefnogi goroeswyr Caethwasiaeth Fodern. 

  • Fe fyddwn yn hysbysu'r Swyddfa Gartref am unrhyw ddioddefwyr posibl.
  • Fel Ymatebwr Cyntaf dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, fe fyddwn yn atgyfeirio dioddefwyr posibl at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).
  • Fe fyddwn yn atgyfeirio pob dioddefwr sy'n blentyn at Eiriolwyr Annibynnol Masnachu mewn Plant (ICTAs).
  • Gellir cefnogi dioddefwyr drwy ein gwasanaeth digartrefedd.

Cadwynni Cyflenwi

Fel rhan o'r Broses Dendro, gofynnir i ddarpar gyflenwyr ymrwymo i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, y mae Cabinet y Cyngor wedi ymrwymo iddo.  Bydd disgwyl i ddarparwyr weithio tuag at gomisiynu moesegol.

Ein Harferion Cyflogi

Rydym ni'n ymroddedig i sicrhau cydymffurfiaeth lwyr gyda'r Cyflog Byw Cenedlaethol (NLW) a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW), fel yr isafswm. Mae'r Cyngor yn mabwysiadu Cytundebau Cyflog Cenedlaethol perthnasol i weithwyr, mae cyfraddau cyflogau Cyngor Sir Powys yn sylweddol uwch na lefelau Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.  Mae Cyngor Sir Powys hefyd yn mabwysiadu cyfradd cyflog y  Living Wage Foundationsy'n cynyddu cyflogau'r staff ar y cyflogau isaf yn uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol / Cyflog Byw Cenedlaethol.  Ymhellach at hyn, cafodd cytundeb Statws Unigol ei weithredu ym mis Ebrill 2013 i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â'r Ddeddf Cyflog Cyfartal.

Fe fyddwn yn sicrhau nad oes hunangyflogaeth ffug yn cael ei gynnal a bod contractau dim oriau ddim yn cael eu defnyddio'n annheg.

Mae ein polisïau yn sicrhau y gall staff gael y rhyddid i ymuno ag undebau llafur.

Hyfforddiant ac Arweiniad

Mae Pecyn Cymorth Partneriaeth Gwrth-Gaethwasiaeth wedi cael ei hyrwyddo ar y safle fewnrwyd i staff.  Rydym yn parhau i weithio i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern drwy gyfathrebu corfforaethol a'r darpariaeth o gyrsiau hyfforddi.

Yn 2019 cyhoeddwyd Dogfen Canllawiau Recriwtio Mwy Diogel. Cafodd y prosesau eu harchwilio a gwelwyd eu bod yn drylwyr, a bod polisi recriwtio a dethol effeithiol ar waith i atal ac atal twyllwyr rhag chwilio am waith gyda'r cyngor.

Yn 2020 cyhoeddwyd y Canllawiau Diogelu Plant i'w defnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan 2019.  Cafodd y rhain gyhoeddusrwydd drwy ein safle mewnrwyd. Yn ogystal, mae cyrsiau ar gael i bob aelod o staff ar Ddiogelu (Oedolion a Phlant) a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.  Mae cwrs hyfforddi yn cael ei ddatblygu ar gyfer Caethwasiaeth Fodern (Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi).