Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth i'w wneud mewn argyfwng.

Image of a question mark

Ewch i mewn, sefwch yno a gwrando ar y newyddion

Mewn argyfwng mawr, os nad ydych chi'n rhan o'r digwyddiad, ond gerllaw neu'n credu y gallwch fod mewn perygl, y peth gorau yw mynd mewn i adeilad diogel, aros yno tan i chi glywed yn wahanol a gwrando ar y radio lleol, y teledu neu gyfryngau cymdeithasol am wybodaeth.

Wrth gwrs bydd yna adegau pan na ddylech 'fynd mewn', er enghraifft os oes tân, neu os bydd y gwasanaethau brys yn dweud yn wahanol neu yn ôl synnwyr cyffredin.

Os cewch eich hun yng nghanol argyfwng, fel arfer bydd eich synnwyr cyffredin a'ch greddf yn eich arwain chi.  Ond mae'n bwysig:

  • Cofio galw 999 os oes rhywun wedi'i anafu a bod perygl i fywyd.
  • Peidiwch â rhoi eich hun neu eraill mewn perygl
  • Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys
  • Ceisiwch gadw'ch pen a meddwl cyn gweithredu, a cheisiwch gysuro eraill.
  • A oes rhywun wedi'i anafu? - cofiwch helpu eich hun cyn ceisio helpu eraill.

Gadael eich cartref mewn argyfwng

Mewn rhai sefyllfaoedd digon prin, mae'n bosibl y bydd y gwasanaethau brys yn gofyn i chi adael eich cartrefi.  Os bydd hyn yn digwydd, dylech adael mor gyflym a thawel â phosibl.

Os bydd gennych amser:

  • Trowch y trydan, nwy a'r dŵr i ffwrdd.
  • Datgysylltwch unrhyw beiriannau.
  • Clowch y drysau a'r ffenestri
  • Ewch â'ch Bag Brys.
  • Os ydych yn defnyddio'r car,  ewch â dŵr potel a blancedi
  • Gwrandewch ar y radio lleol neu gyfryngau cymdeithasol am gyngor a chyfarwyddiadau.
  • Gofynnwch i'ch cymdogion a ydyn nhw wedi clywed.
  • Peidiwch â cheisio casglu'r plant o'r ysgol.  Bydd yr athrawon a'r heddlu'n sicrhau eu bod nhw'n ddiogel.  Cewch ddod at eich gilydd eto fel teuluoedd pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.