Toglo gwelededd dewislen symudol

Bod yn barod am argyfwng.

Image of a rucksack

Beth sydd yn eich bag brys?

Y cyngor traddodiadol ar 'fagiau brys' oedd radios a thortshis weindio, cit cymorth cyntaf a digon o ddŵr potel a bwydydd sych am rai dyddiau.   Fe wnawn ein gorau i edrych ar eich ôl chi ac ni wnawn eich gadael chi ar eich pen eich hunan, ond dylech gofio rhai pethau.

Heblaw'r ffôn (a'r gwefrydd), allweddi a waled, mae rhai pethau na fyddwch am fod hebddynt am rhy hir.

Cynllun:  Ydych chi wedi meddwl lle fyddech chi'n mynd, gyda phwy allwch chi aros?  A oes lle i'r anifeiliaid anwes?  Ydych chi wedi sôn wrth rywun arall lle rydych chi'n mynd neu sut i gysylltu â chi fel y gallwn eich galw chi nôl pan fydd y cyfan drosodd?  Ydych chi'n gwybod sut i droi pethau i ffwrdd cyn gadael?

Meddyginiaeth:  Os byddwch yn cadw hwn mewn un lle, bydd yn haws i chi ei gydio ar frys.

Llyfr ffôn: a yw eich rhifau pwysig yn y ffôn?

Papur a phen:  i wneud nodyn o'r holl wybodaeth a ddaw.

Pethau ymolchi:  cofiwch eich brws dannedd, past dannedd, offer ymolchi

Gofal plant:  Os oes gennych blant, byddwch angen pethau iddyn nhw a rhywbeth i'w diddanu.

Gofal anifeiliaid: rhywbeth i gario neu arwain yr anifail, bwyd, sachau gwastraff.

Dogfennau pwysig:  Cadwch gopïau mewn bag atal dŵr, e.e. pasbort, tystysgrif geni, dogfennau yswiriant.