Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Clefyd coed ynn

Clefyd ffwngaidd yw clefyd coed ynn, a adwaenir hefyd fel clefyd (Chalara) coed ynn, sy'n effeithio ar bob rhywogaeth o goed ynn (Fraxinus). Mae'r clefyd wedi ymledu i'r gorllewin ar draws y wlad ac mae'n effeithio ar bron pob rhan o Gymru erbyn hyn.

Mae'r ffwng (Hymenoscyphus fraxineus) yn glynu ei hun wrth ddail coed ynn ac yn ymledu trwyddynt i'r canghennau, gan beri i'r coed farw yn y pen draw.

Mae clefyd coed ynn yn broblem ar draws Ewrop a disgwylir i 90% o goed ynn farw o'i herwydd. Mae'n broblem enfawr i berchnogion tir a chynghorau ar draws y DU sydd â choed ynn ar eu tir. Gall coed y mae'r clefyd yn effeithio arnynt syrthio heb rybudd ar bobl, eiddo, llinellau pŵer a ffyrdd.

Mae rhai cynghorau gwledig yn Lloegr yn meddwl bod clefyd coed ynn wedi effeithio ar gynifer â 500,000 o goed ynn ar eu tir. Ym Mhowys, rydym wedi amcangyfrif y bydd angen torri tua  23,000 o goed ynn oherwydd y clefyd, er y gall y ffigur terfynol fod yn uwch o lawer.

I atal coed ynn rhag brifo pobl neu ddifrodi eiddo, rydym yn dechrau rhaglen arolygu a gwaredu coed ynn a fydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i'w chwblhau. Drwy weithredu yn awr, gallwn amddiffyn pobl ac eiddo rhag clefyd na ellir ei anwybyddu.

 

Sut mae clefyd coed ynn yn edrych?

Mae'r clefyd yn effeithio ar goed ynn drwy rwystro systemau cludo dŵr, peri i ddail gael eu colli a namau yn y coed ac ar y rhisgl. Mae hyn yn arwain at farwolaeth corun y goeden. 

Mae coed yn mynd yn frau dros amser gyda changhennau'n torri'n rhydd oddi wrth brif gorff y goeden. Os nad ymdrinnir â'r rhain, bydd y coed mewn perygl o gwympo ac yn berygl dybryd i'r ardal gyfagos.

 

Sut mae clefyd coed ynn yn edrych?

 

 

Sut rydym yn ymdrin â chlefyd coed ynn

Nid oes modd gwella'r cyflwr ac nid oes ffordd ymarferol o atal y clefyd rhag ymledu. Amcangyfrifir y caiff tua 90% o goed ynn yn y DU eu lladd gan glefyd coed ynn.

Mae miloedd o goed ynn ar dir cyhoeddus ym Mhowys a llawer mwy ar dir preifat. Yr unig ffordd o waredu'r risg a achosir gan goed sydd wedi'u heffeithio'n ddifrifol yw eu torri i lawr.

Byddwn yn ymdrin â choed sydd ar dir cyhoeddus sy'n eiddo i'r Awdurdod, megis parciau, ysgolion neu wrth ymyl y ffordd ac ati yn unig.

Cynhelir arolygon yn barhaus i nodi coed y mae'n rhaid eu torri i lawr ar unwaith. Cymerir llawer o fisoedd i gwblhau'r arolygon ac yna byddwn yn cynnal arolygon ychwanegol ar sail flynyddol nes bydd y clefyd wedi cilio.

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, caiff coed ynn ar dir cyhoeddus eu hasesu i gadarnhau sut mae'r clefyd wedi effeithio arnynt a pha mor fuan y bydd yn rhaid eu torri i lawr. 

Bydd coed ynn yr effeithir arnynt gan glefyd coed ynn yn cael eu dosbarthu i un o bedwar categori. Bydd hwn yn ein helpu i gadarnhau pa rai y mae'n rhaid eu torri i lawr. Mae coed yng nghategori un naill ai'n goed nad yw'r clefyd coed ynn yn effeithio arnynt neu'n goed sy'n dangos arwyddion cynnar o'r clefyd. Bydd y clefyd yn effeithio'n ddifrifol ar goed sydd yng nghategori pedwar, gyda llawer o ddail wedi'u colli a changhennau brau - bydd gwaredu'r coed hyn yn flaenoriaeth. 

Mae rhai coed ynn yn dangos lefelau da o wydnwch i'r clefyd ac ni ddylid ystyried eu gwaredu - mae'r coed hyn yn hynod bwysig oherwydd y gwerth ecolegol maent yn eu cadw yn yr amgylchedd a gallant helpu i ailboblogi'r rhywogaeth yn y dyfodol.

 

Beth allwch chi ei wneud

Nid oes angen i'r cyhoedd ddweud wrthym am goed ynn sydd ar dir cyhoeddus. Byddwn yn cynnal arolwg llawn ar draws y sir.

Os oes gennych goed ynn ar eich tir a allai gwympo ar dir, ffyrdd neu eiddo cyfagos, mae'n bwysig i'r coed gael eu hasesu gan arbenigwr coedyddiaeth, sydd â chymwysterau neu brofiad addas, er mwyn cadarnhau eu hiechyd a lefel y risg y maent yn ei rhoi.

Mae gan berchnogion tir preifat ddyletswydd gofal dan gyfraith gyffredin i sicrhau eu bod yn gwneud popeth sy'n rhesymol ymarferol i atal niwed neu ddifrod i gymdogion ac, o dan Ddeddfau Atebolrwydd Meddianwyr, ymwelwyr â'u tir ynghyd â thresmaswyr. Mae gofyniad arnynt hefyd o dan y Ddeddf Priffyrdd i sicrhau na fydd eu coed yn peryglu pobl ar ffyrdd a throedffyrdd.

Mae gofynion ychwanegol ar fusnesau o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith i sicrhau diogelwch yn y gweithle.

Os ydych yn ddeiliad tai unigol, gallai hyn olygu bod angen i chi barhau i wirio cyflwr eich coed ynn; os ydych yn berchennog tir mwy neu'n fusnes, bydd yn rhaid i chi:

  • Nodi sawl coeden ynn sydd gennych a ble mae'r coed
  • Asesu eu cyflwr presennol - defnyddiwch ganran y canopi coed sy'n weddill
  • Nodi lle mae'r coed y mae'r clefyd yn effeithio arnynt yn achosi perygl
  • Gwaredu coed peryglus

Ar ôl y broses gychwynnol o asesu a lliniaru, argymhellwn eich bod yn cynllunio archwiliadau parhaus a nodi'r dirywiad disgwyliedig yn y coed ynn sydd gennych. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi cyllideb ar gyfer gwaith y bydd ei angen yn y dyfodol. Disgwylir i goed y mae'r clefyd yn effeithio arnynt golli 10-15% o'u canopi'r flwyddyn er y gallai'r dirywiad fod yn gyflymach na hyn. Dylid torri coed â chanddynt rhwng 0% a 25% o ganopi'n weddill os ydynt yn agos at bobl neu eiddo. Ni ellir rhagweld pryd y bydd coed sydd â gorchudd canopi o 50% i 25% yn dod yn beryglus.

 

Cynllunio a Gorchmynion Cadw Coed (GCC)

Ni ellir cymeradwyo unrhyw rywogaeth o goed ynn mewn cynlluniau tirwedd.

GCC presennol
Mae goblygiadau llawn y clefyd yn anhysbys o hyd, felly nid ystyrir bod torri coed iach yn angenrheidiol. Parheir i farnu ceisiadau am ganiatâd i dorri coed nad yw'r clefyd yn effeithio arnynt (dan orchmynion cadw coed ac ardaloedd cadwraeth) ar sail eu rhinweddau eu hunain ac ni fydd y posibilrwydd o Chalara'n heintio'r coed yn ystyriaeth sylweddol. Bydd coed y cadarnhawyd bod Chalara wedi'u heintio hefyd yn cael eu barnu ar sail eu rhinweddau yn erbyn canlyniad tebygol haint, gwerth rheoli'r clefyd a'r ddamcaniaeth sy'n datgan y gallai coed aeddfed ddarparu ffynhonnell o goed gyda gwrthiant. Bydd torri coed sydd dan Orchmynion Iechyd Planhigion Statudol y mae'r clefyd wedi'u heintio yn eithriad.

GCC newydd
Nes clywir yn wahanol, nid ystyrir y posibilrwydd o Chalara'n heintio'r coed fel cyfiawnhad sylweddol am beidio â gwneud GCC, er bod achos cadarn o haint Chalara yn debygol o fod yn ffactor sylweddol wrth benderfynu yn erbyn gwneud gorchymyn.

 

Cwestiynau cyffredin ynghylch clefyd coed ynn

Beth sy'n digwydd os nad ydych yn gwneud hyn?

Bydd miloedd o goed mawr peryglus yn sefyll ac yn gallu cwympo'n agos at ffyrdd, ysgolion, eiddo a mannau cyhoeddus. 

Pa mor gyflym mae'r clefyd yn ymledu o goeden i goeden?

Mae'r clefyd yn cael ei achosi gan sborau ffwng a gludir yn yr awyr ac a all ymledu mwy na 20km y flwyddyn. Mae'r ymlediad o goeden i goeden yn dibynnu'n fwy ar wydnwch naturiol y goeden benodol gan fod y sborau'n cael eu rhyddhau yn eu biliynau ym mhobman.

Faint o amser y bydd yn ei gymryd?

Gall y broses o waredu coed ynn y mae'r clefyd yn effeithio arnynt gymryd sawl blwyddyn gan fod coed yn dirywio dros amser. Bydd pob coeden y mae'r clefyd yn effeithio arni'n dirywio 10 i 20% y flwyddyn gan ddibynnu ar sawl ffactor amgylcheddol.

Ydy'r cyngor yn defnyddio hwn fel esgus i waredu mwy o goed?

Nac ydy. Mae'r clefyd yn anffodus iawn ac yn drychineb i'r amgylchedd naturiol. Mae colli cynifer o goed a'r ecosystemau maent yn eu cefnogi yn drychineb.

A ydych yn mynd i dorri rhywogaethau eraill o goed?

Nid oherwydd clefyd coed ynn. Yr unig goed eraill a gaiff eu gwaredu gan y Cyngor Sir yw'r coed marw a pheryglus a gaiff eu gwaredu'n ddyddiol er diogelwch y cyhoedd.

A ydych yn torri coed ynn nad oes angen eu torri?

Nac ydym, yn bendant. Caiff yr holl goed sydd i'w torri eu hasesu cyn i unrhyw waith gael ei wneud iddynt a chânt eu cadw cyhyd ag y byddant yn ddiogel i'w cadw.

Fydd rhai coed ynn yn gallu gwrthsefyll y clefyd a sut y byddwn yn eu gwarchod?

Mae'n ymddangos bod gan rai coed ynn wrthiant  neu wrthiant mawr i'r clefyd. Mae'r coed hyn yn hynod bwysig oherwydd y gwerth ecolegol maent yn ei gadw yn y dirwedd. Byddwn yn parhau i fonitro dirywiad neu wydnwch yr holl goed a gedwir dros nifer o flynyddoedd. Nodir yr holl goed sy'n dangos gwrthiant  da a hysbysir perchnogion adrannol y coed hynny.

A ydych yn mynd i blannu coed yn lle'r rhai a gollir?

Yn y pen draw, byddwn yn dechrau plannu coed newydd yn lle'r rheiny a gollwyd ond bydd hyn yn digwydd yn y tymor hir fel rhan o strategaeth amgylcheddol a glasu'r cyngor ar draws y sir.

Beth fydd yn digwydd i'r holl goed?

Byddwn yn gwerthu'r coed neu'n eu defnyddio lle bo gwneud hynny yn economaidd. Gallai gymryd peth amser i drefnu hyn a chanfod yr offer priodol i wneud hyn.