Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Trethi Busnes: Eiddo y mae'r Llifogydd wedi Effeithio arno

Os amharodd y tywydd garw diweddar ar eich busnes, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i gael rhywfaint o gymorth gyda'ch Treth Busnes.

Eiddo gwag

Nid oes rhaid i chi dalu trethi busnes ar eiddo masnachol gwag am 3 mis o'r dyddiad y daeth eich eiddo'n wag am y tro cyntaf. Ar ôl hyn, bydd y rhan fwyaf o fusnesau'n talu cyfraddau busnes llawn.

Gall rhai safleoedd gael rhyddhad estynedig ar yr eiddo:

  • caiff eiddo diwydiannol (er enghraifft, warysau) eu heithrio am 3 mis pellach
  • adeiladau rhestredig - hyd nes y byddant yn cael eu hailfeddiannu
  • adeiladau gyda gwerth trethadwy o £2,600 - hyd nes y byddant yn cael eu hailfeddiannu

Os yw eich eiddo wedi dod yn wag, llenwch ein ffurflen ar-lein.

 

Eiddo wedi'i feddiannu'n rhannol

Gall unrhyw fusnes wneud cais am Ryddhad Rhanfeddiannu eiddo os nad oes unrhyw un yn meddiannu'r eiddo am 'gyfnod byr'. Wrth ddefnyddio'i ddisgresiwn, rhaid i'r Cyngor gymhwyso'r rheol gyffredinol a thybio bod unigolyn sy'n meddiannu rhan o eiddo yn meddiannu'r eiddo cyfan. Nid oherwydd nad yw'r eiddo'n cael ei ddefnyddio y bwriedir ei ddileu o'r system drethu.

Fodd bynnag, lle bydd anawsterau ymarferol:

  • o ran meddiannu neu adael eiddo mewn un math o waith,
  • neu lle daw'r adeilad neu safle cynhyrchu'n segur dros dro, fe allai fod yn rhesymol i roi gostyngiad mewn trethi.

Bydd y gostyngiad mewn trethi'n gyfyngedig i 3 mis i'r rhan fwyaf o fusnesau a 6 mis i rai diwydiannol.  Sylwch na ellir hawlio'r gostyngiad hwn gyda'r Gostyngiad Trethi i Fusnesau Bach.

Os yw eich eiddo wedi'i ranfeddiannu bellach, llenwch ein ffurflen ar-lein.

 

Rhyddhad caledi

Gall unrhyw fusnes wneud cais am Rhyddhad Caledi,a rhaid i'r cyngor ystyried a yw er lles y cyhoedd i'w ddyfarnu. Rhaid cynnal prawf caledi ariannol hefyd, gan edrych ar fuddiannau ehangach y trethdalwyr.

I ddarllen manylion pellach a i gael ffurflen gais: Gostyngiad Caledi

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu