Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Casgliadau Amgueddfa Sir Faesyfed

Museum images

  • Archaeoleg

Casgliad cain o eitemau o gyfnodau cynhanes i ganoloesol gan gynnwys ceufad Llandrindod a'r Sheela na Gig, casgliad Castell Collen.

  • Paleontoleg

Casgliad pwysig o enghreifftiau Ordofigaidd o fewngraig Llanfair-ym-Muallt - Llandrindod.

  • Celfyddydau Cain

Enghreifftiau o waith Thomas Jones, J.M. Ince, William Stone, John Opie, Syr Alfred East, William Mills, Elizabeth a Bryan Organ, Catherine Lyons.

  • Hanes Naturiol

Enghreifftiau cadw o rai o drigolion naturiol Sir Faesyfed ynghyd â rhai eitemau o hinsoddau mwy egsotig.  Cipolwg ar flas a ffasiwn yr hen ddyddiau.

  • Hanes Milwrol

Arteffactau a gwybodaeth am ddynion a merched Sir Faesyfed a fu'n ymladd yn y ddau Ryfel Byd a deunydd o Ffrynt Cartref Sir Faesyfed.

  • Hanes Cymdeithasol

Casgliad cyfoethog ac amrywiol gan gynnwys casgliad mawr o luniau, eitemau ar dreftadaeth tref ffynhonnau Llandrindod, Casgliad Cymdeithas Kilvert ar ddyddiadurwr Fictoraidd enwog, Telyn Deires Gymreig anhygoel John Roberts.

 

Nod ArtUK yw dangos y casgliad cenedlaethol cyfan o luniau olew, adrodd y stori tu ôl i'r lluniau a rhoi gwybod i bobl lle mae'n bosibl eu gweld.  Mae'n cynnwys lluniau o filoedd o amgueddfeydd a sefydliadau cyhoeddus eraill ar draws y wlad.

Mae'r amgueddfa hon wedi ychwanegu delweddau o'i gasgliad cyfan o 20 o luniau olew ac acrylig ar wefan Your Paintings. Mae ein casgliad yn cynnwys gwaith gan William Mills, John Opie a William Stone.