Casgliadau Amgueddfa Sir Faesyfed
- Archaeoleg
Casgliad cain o eitemau o gyfnodau cynhanes i ganoloesol gan gynnwys ceufad Llandrindod a'r Sheela na Gig, casgliad Castell Collen.
- Paleontoleg
Casgliad pwysig o enghreifftiau Ordofigaidd o fewngraig Llanfair-ym-Muallt - Llandrindod.
- Celfyddydau Cain
Enghreifftiau o waith Thomas Jones, J.M. Ince, William Stone, John Opie, Syr Alfred East, William Mills, Elizabeth a Bryan Organ, Catherine Lyons.
- Hanes Naturiol
Enghreifftiau cadw o rai o drigolion naturiol Sir Faesyfed ynghyd â rhai eitemau o hinsoddau mwy egsotig. Cipolwg ar flas a ffasiwn yr hen ddyddiau.
- Hanes Milwrol
Arteffactau a gwybodaeth am ddynion a merched Sir Faesyfed a fu'n ymladd yn y ddau Ryfel Byd a deunydd o Ffrynt Cartref Sir Faesyfed.
- Hanes Cymdeithasol
Casgliad cyfoethog ac amrywiol gan gynnwys casgliad mawr o luniau, eitemau ar dreftadaeth tref ffynhonnau Llandrindod, Casgliad Cymdeithas Kilvert ar ddyddiadurwr Fictoraidd enwog, Telyn Deires Gymreig anhygoel John Roberts.
Mae'r amgueddfa hon wedi ychwanegu delweddau o'i gasgliad cyfan o 20 o luniau olew ac acrylig ar wefan Your Paintings. Mae ein casgliad yn cynnwys gwaith gan William Mills, John Opie a William Stone.