Toglo gwelededd dewislen symudol

Tracio ac Olrhain

Datblygu system Rheoli Perthnasau â Chwsmeriaid Tracio ac Olrhain i Bowys a thri awdurdod arall

 

"Bob tro rwy wedi'i gweld yr wythnos hon rydych chi wedi'i gwella (ac roedd hi'n wych ar y dechrau!)" - Rhondda Cynon Taf

 

Mae'r gallu i ymateb yn effeithiol i achosion newydd o COVID-19 ac olrhain a chysylltu ag unrhyw un y credir y buodd yn agos at rywun â'r clefyd yn hanfodol i godi'r cyfyngiadau symud yn ddiogel. Mae hefyd yn ein galluogi i ddychwelyd at busnes a chymdeithasu arferol (er hynny gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle o hyd).

Wrth i'r system genedlaethol gael ei datblygu dywedwyd wrth awdurdodau lleol i ddatblygu eu dulliau Tracio ac Olrhain eu hunain i'w defnyddio yn y cyfamser. Buodd y Tîm Mynediad Digidol ar y We'n gweithio i ddatblygu system oedd yn addas i gwrdd â'r her. Ar y cychwyn roedd y tîm yn gweithio ar eu pennau eu hunain ond o ganol y camau datblygu ymlaen buont yn cydweithio â thimau o ranbarthau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

Yn dilyn arddangos prototeip Powys a thrafodaeth ar Teams, roedd staff allweddol o'r holl sefydliadau partner yn gallu cyfrannu at ddylunio teclyn a fyddai'n gweithio i bob rhanddeiliad. Gan fynd ati i lunio offer mewn modd hyblyg roedd y tîm yn medru addasu'r system a ddatblygwyd ym Mhowys ar y dechrau i wasanaethu nifer o awdurdodau'n ddiogel gyda fawr ddim o amharu. Roedd cydweithio a gwneud penderfyniadau'n gyflym yn golygu i'r system gael ei datblygu mewn dim ond tair wythnos. Yn ystod yr amser yma roedd angen trefnu cefnogaeth cyflenwi am saith diwrnod yr wythnos. Erbyn hyn mae'r system yn cael ei defnyddio gan amryw o wahanol awdurdodau.

Datblygwyd y system i fod yn hwylus ac yn gyflym i'w gweithredu. Mae'n cynnwys y nodweddion canlynol:

  • Rhyngwyneb defnyddiwr greddfol sy'n seiliedig ar borwr
  • Hyfforddiant ar gyfer pob aelod o staff ac yn cymryd ond un awr (gan gynnwys cwestiynau)
  • Gall staff Powys fewngofnodi gan ddefnyddio eu cyfrineiriau Powys arferol
  • Mae modd i'n cydweithwyr iechyd cyhoeddus gael mynediad i ddata ohoni
  • Mae dychwelyd data i Lywodraeth Cymru'n cael ei gynhyrchu'n awtomatig (ar gyfer pob un o'r pedwar awdurdod)

Hyd at 1 Gorffennaf canfuwyd 30 o achosion positif a oedd yn golygu bod angen Olrhain Cysylltiadau, ac mae pob un wedi cael ei gwblhau yn llwyddiannus. Arweiniodd hyn at adnabod 44 cyswllt a rhoi cyngor ac arweiniad hunan-ynysu priodol i'r holl unigolion cafodd eu heffeithio.