Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Datblygu system 'Clic a Chadw' ar gyfer Canolfannau Gofal Plant Brys ym Mhowys

Mae gweithwyr hanfodol wedi bod yn asgwrn cefn gwasanaethau rheng flaen yn ystod y pandemig. Nid yw llawer o'r gweithwyr allweddol yma ond yn gallu gwneud eu gwaith gwerthfawr oherwydd y ddarpariaeth gofal plant rhagorol sydd ar gael pryd a lle y mae ei angen arnynt.

 

Ar ben hyn roedd angen gofal i gefnogi plant mwyaf bregus y Sir. Roedd rhaid cyd-drefnu a chadw golwg manwl ar y ddarpariaeth gofal yn y 14 Canolfan Gofal Plant Brys a dwy Ganolfan Gofal Plant Brys Arbenigol a sefydlwyd ar draws Powys. O ganlyniad bu'n rhaid i Dîm Mynediad Digidol yr Awdurdod ddatblygu system 'Clic a Chadw' yn gyflym i hwyluso rheoli'r dasg anferth hon yn effeithiol.

 

Aeth un o aelodau is y tîm ati ar unwaith i ddatblygu cyfleuster ar y we i ddarparu proses archebu cyflym a chyfleus sy'n cynnwys dau lwybr hawdd i'w ddefnyddio. Trwy'r cyntaf mae modd trefnu gofal plant i blant oedran ysgol. Mae'n casglu'r ceisiadau am ofal a gyflwynwyd ac yn eu rhoi ar daenlen. Wedyn caiff darparwyr gwasanaethau lawrlwytho'r cofnodion a gasglwyd yn ôl y gofyn. Ers i'r system fynd yn fyw ar 30 Mawrth, mae wedi profi i fod yn effeithlon ac arbed cryn waith. Roedd 2677 o ffurflenni wedi cael eu cyflwyno trwy'r proses yma hyd at 11 Mehefin.

 

Mae'r ail lwybr yn hwyluso cadw lleoedd i blant cyn ysgol. Mae'r drefn ychydig yn wahanol gyda hwn gan fod pob ffurflen a gyflwynir yn cynhyrchu e-bost sy'n cael ei anfon ymlaen yn uniongyrchol at Wasanaeth y Blynyddoedd Cynnar. Wedyn mae un o'r tîm yn mynd ati i weithredu'r cais. Trwy'r addasiad hwn caiff rhieni a gofalwyr lanlwytho y dystiolaeth ofynnol o'u statws cyflogaeth cyn iddynt gadw lle. Mae'r ffurflen hon yn dal i gael ei defnyddio a rhwng 30 Mawrth a diwedd Mehefin roedd 2,354 o ffurflenni wedi cael eu cyflwyno.

 

Mae'r proses ar-lein wedi hwyluso gwaith drud a fyddai wedi cymryd cryn amser heb ei ddigido. Mae'n cynnig ffordd rwydd a didrafferth i weithwyr brys hanfodol, staff y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol sicrhau bod eu plant yn derbyn y gofal angenrheidiol tra maen nhw yn y gwaith. Mae wedi rhoi tawelwch meddwl i weithwyr oherwydd gallant ei ddefnyddio unrhyw le heb iddo achosi mwy o straen. Trwy roi modd i rieni a gofalwyr lenwi'r ffurflenni hyn eu hunain ar-lein, mae'r system wedi lleihau'r baich gwaith i'r staff sy'n gweinyddu'r Canolfannau Gofal Plant. Mae hefyd wedi lleihau'r angen i gysylltu â chwsmeriaid unigol. Gan nad oes rhaid cwblhau ffurflenni papur mae'r system wedi profi i fod yn well i'r amgylchedd tra'n osgoi cyswllt wyneb yn wyneb diangen. 

 

Gallwch weld mwy o wybodaeth ynglŷn â'r gwaith yma trwy fynd i'r ddolen ganlynol:  Powys Ddigidol.