Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Gwasanaeth Cyfnewid Testun

Mae'r gwasanaeth yn darparu cynorthwyydd testun sy'n teipio ac yn siarad, fel y bo'r angen, i helpu rhywun byddar neu rhywun sydd â nam ar y lleferydd, a rhywun sy'n gallu clywed i gyfathrebu.

Sut i ddefnyddio ein Gwasanaeth Cyfnewid Testun

Os ydych yn F/fyddar, â nam ar y clyw neu os oes gennych nam ar y lleferydd, ffoniwch 0870 240 9598.

  1. Galwch 0870 240 9598 o'ch ffôn.
  2. O fewn yr ap (Relay UK), 'Ymunwch' â'r alwad pan ofynnir i chi wneud ac fe welwch neges "Relay UK Please type the number you want to call GA."
  3. Rhowch rif yr unigolyn yr hoffech ei alw gan ddefnyddio bysellbad rhifol yr ap. Ar hyn o bryd nid ydych wedi cysylltu â chynorthwyydd testun, felly mae angen i chi deipio yn lle siarad.
  4. Wedyn fe welwch "Relay UK Waiting for a free relay assistant" ac yn fuan ar ôl hynny, "Connected to Text Relay please wait."
  5. Wedyn bydd y cynorthwyydd testun yn gofyn i chi beth yw enw'r unigolyn yr hoffech chi ei alw ac yn ceisio'ch cysylltu chi.

Os ydych yn defnyddio ffôn testun, mae'r camau y mae rhaid i chi eu dilyn yn debyg, ond byddwch yn rhoi gwybodaeth ar sgrin y ffôn testun yn lle.

Mae Relay UK yn costio ceiniog y funud yn ychwanegol i'w ddefnyddio ynghyd â phris galwad safonol, ac mae'n bosibl cysylltu â chwsmer drwy'r ap neu ffôn destun.