Delio ag Argyfyngau - Cronfa Cymorth Dewisol (DAF)
O dan Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) Llywodraeth Cymru, os ydych wedi profi trychineb fel llifogydd neu dân yn eich cartref efallai y byddwch yn gymwys am grant Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) i helpu gyda chostau hanfodol ar ôl argyfwng.
Os gwyddys bod sawl eiddo wedi cael llifogydd, efallai y byddwn yn cyhoeddi rhif llinell gymorth i gynorthwyo'r rhai yr effeithir arnynt gyda hawliadau a lwfansau eraill, megis rhyddhad yn ôl disgresiwn o'r dreth gyngor lle nad yw'r eiddo yn gallu ei feddiannu, neu feddiannaeth rhannol oherwydd difrod llifogydd helaeth. Sylwch nad yw'r Gronfa Cymorth Dewisol ar gael i ail gartrefi, lletyau gwyliau na landlordiaid.