Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Creu mannau cynnes i Bowys

Creating Warm Spaces Icon

Rydym yn diweddaru'r rhwydwaith o leoedd i bobl Powys sy'n cael trafferth gyda chostau byw y gaeaf hwn.  Bydd y mannau hyn yn cynnig croeso cynnes a chyfle i gymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau tra'n cadw'n gynnes.

Rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol a fyddai'n gallu darparu mannau cynnes yn eu cymuned.

Mynegwch eich diddordeb mewn ymddangos ar ein cyfeiriadur ar-lein yma

Bydd datganiadau o ddiddordeb yn cael eu gwerthuso a gwahoddir y rhai sy'n bodloni'r meini prawf i wneud cofrestriad llawn ac wedyn ymgeisio am gyllid.

 

Cyllid Mannau Cynnes

Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Powys i gefnogi Mannau Cynnes ar gyfer 2024/25.

Gellir defnyddio cyllid i sefydlu / ailsefydlu mannau ac ychwanegu gwerth at y rhai sydd eisoes ar waith sy'n cefnogi lles economaidd, cymdeithasol a lles trigolion Powys.

Disgwylir y bydd y cyllid yn cefnogi mannau lle darperir amgylchedd croesawgar, hygyrch, diogel a chynnes i unigolion. Bydd y rhain yn fwy na dim ond mannau cynnes i unigolion fynychu. Byddant yn lle croesawgar a byddant yn agored a chynhwysol ac ar gael i bawb yn y gymuned eu defnyddio. Bydd y pwyslais ar adnabod a chyflawni anghenion lleol a darparu ymateb sy'n cyflawni'r angen hwnnw.

Gallai darparwyr mannau diogel a chynnes gynnwys:

  • lluniaeth a byrbrydau sylfaenol (o leiaf) ond gallant ymestyn i ddarparu pryd mwy sylweddol lle bo hynny'n bosibl.
  • darparu gwasanaethau cyngor a chymorth i'r rhai sy'n mynychu, gall hyn fod er enghraifft cyngor a chymorth ar faterion ariannol, iechyd a llesiant neu hygyrchedd digidol.
  • gweithgarwch pellach sy'n cyfoethogi fel ymarfer corff, gweithgareddau celfyddydol neu ddiwylliannol (yn ddibynnol ar leoliad ac argaeledd).

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus adrodd ar y lleoliadau a'r math o leoedd diogel a chynnes a gefnogir, nifer yr unigolion sy'n mynychu'r mannau diogel a chynnes a darparu gwybodaeth ar y math o weithgaredd / cymorth a ddarperir.  Dylai ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw leoedd a ariennir yn cael eu hyrwyddo'n briodol ac yn ddigonol a bod astudiaethau achos ar gael ar gyfer deunydd hyrwyddo cenedlaethol.

Lawrlwythwch y ddogfen ganllaw lawn (PDF, 91 KB) neu gais drwy e-bost oddi wrth costofliving@powys.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu