Nid ydych wedi defnyddio'r ffurflen hon ers tro - i amddiffyn eich data, bydd y sesiwn ffurflen yn dod i ben yn fuan
Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Cadwyd eich dewisiadau cwcis
Dyddiad Cau: 04/05/2026
Lawrlwythwch (RLA0485 Cym Swydd Ddisgrifiad.pdf)
Lawrlwythwch (RLA0485 Eng Job Description.pdf)
Am y rôl: Darparu gwasanaeth deinamig a blaengar i breswylwyr, grwpiau cymunedol ac ymwelwyr. Gall dyletswyddau amrywio yn ôl lleoliad ond byddant yn canolbwyntio ar ddarparu profiad rhagorol i'r cwsmer; ymgysylltu cwsmeriaid yn greadigol ag ystod o adnoddau digidol a ffisegol mewn ffyrdd sy'n annog cariad at hanes, diwylliant, darllen, gwybodaeth a dysgu gydol oes. Amdanoch chi: • Profiad o ddefnyddio TGCh a hyder wrth addasu i dechnolegau sy'n newid yn y gwaith • Dealltwriaeth dda o lyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd a lleoliadau diwylliannol, a'u rôl yn y gymuned • Addysg gyffredinol dda – 5TGAU, A-C neu gyfwerth • Ymrwymiad at safonau uchel • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun yn ogystal ag o fewn tîm Yr hyn y byddwch yn ei wneud: • Ymgymryd â'r holl ddyletswyddau sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu'r cyfleuster o ddydd i ddydd, gan gynnwys cynorthwyo gyda goruchwylio gwirfoddolwyr. • Darparu croeso cynnes a lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys mynediad at wasanaethau'r cyngor a'r llywodraeth, a darparu gwybodaeth ac arweiniad i gwsmeriaid, gan gyfeirio at staff arbenigol lle bo hynny'n briodol. • Bod yn hyderus wrth ddefnyddio a chefnogi cwsmeriaid gydag ystod eang o systemau ac adnoddau digidol. • Hyrwyddo'r defnydd o gyfleusterau diwylliannol drwy’r amser, gan weithredu fel llysgennad i'r gwasanaeth a hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb. Codi ymwybyddiaeth o'r ystod lawn o wasanaethau i amrywiaeth o gynulleidfaoedd drwy ymgysylltu ag adnoddau ffisegol ac yn ddigidol drwy ddatblygu technolegau, a chyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i annog cyfranogiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Kate McCaffrey kate.mccaffrey@powys.gov.uk newtown.library@powys.gov.uk 01686 626934
Mae'n ofynnol i'r swydd hon gael Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
Sylwch: ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Sir Powys yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Crefftus er mwyn cael hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn ymgeisio am swydd.